Pwy all wneud cais i adnewyddu pasbort oedolyn a phryd :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf cyn adnewyddu eich pasbort. Gallwch drosglwyddo hyd at naw mis o ddilysrwydd o’ch hen basbort i’ch pasbort newydd. Mynnwch wybod sut i adnewyddu eich pasbort.

Pobl nad ydynt yn byw yn y DU a’r rhai y tu allan i’r DU dros dro

Os nad ydych yn byw yn y DU, gallwch wneud cais yn bersonol i adnewyddu eich pasbort tra byddwch yn ymweld â’r DU.

Ni all yr IPS dderbyn ceisiadau o dramor. Os hoffech adnewyddu eich Pasbort Prydeinig tra byddwch y tu allan i’r DU, bydd angen i chi gysylltu â’ch llysgenhadaeth, eich uchel gomisiwn neu’ch swyddfa is-gennad leol.

Os cyhoeddodd yr IPS eich pasbort diwethaf am gyfnod cyfyngedig (blwyddyn neu lai), dylech ffonio’r Llinell Gyngor Pasbortau ar 0300 222 0000 cyn gwneud cais.

Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth un diwrnod Premiwm, gan nad yw ar gael ar gyfer estyniadau i basbort.