Pwy gaiff wneud cais am basbort oedolyn cyntaf a phryd :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth
Yma, cewch wybod pwy gaiff wneud cais am basbort oedolyn cyntaf a faint o amser y mae’n ei gymryd i wneud hynny. Erbyn hyn, mae’r broses ymgeisio’n cynnwys cyfweliad gyda’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Dylech ganiatáu hyd at chwe wythnos i’ch pasbort gyrraedd.
Dylech ganiatáu o leiaf chwe wythnos i’ch pasbort oedolyn cyntaf gyrraedd. Os nad ydych wedi cael pasbort Prydeinig erioed naill ai fel plentyn neu fel oedolyn, yna bydd angen cyfweliad arnoch
Os ydych yn gwneud cais am eich basbort oedolyn cyntaf, dylech wneud cais o leiaf chwe wythnos cyn yr ydych am deithio. Ni chewch ddefnyddio’r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym na’r gwasanaeth undydd Premiwm. Y rheswm am hyn yw, yn ogystal â llenwi’r ffurflen, bydd angen i chi gael cyfweliad fel rhan o’r broses ymgeisio. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n cysylltu â chi i drefnu cyfweliad ar ôl iddynt dderbyn a gwirio eich cais.
Os oedd gennych eich pasbort Prydeinig eich hun yn blentyn ni fydd angen i chi fynd i gyfweliad, gan y caiff eich cais ei gyfrif fel cais i adnewyddu.
Pobl nad ydynt yn preswylio yn y DU a’r rheini sydd y tu allan y DU dros dro
Os nad ydych yn byw yn y DU, gallwch chi’n bersonol wneud cais i adnewyddu eich pasbort tra byddwch yn ymweld â’r DU.
Ni all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau dderbyn ceisiadau sydd wedi’u hanfon o dramor. Os ydych chi am adnewyddu neu wneud cais am Basbort Prydeinig eich plentyn tra’ch bod yn byw dramor, rhaid i chi gysylltu â’ch is-genhadaeth, eich uchel gomisiwn neu eich llysgenhadaeth leol.
