Pwysau ar y byd naturiol :Cross Stitch – Yr amgylchedd a byw'n wyrdd

Mae pobl yn dibynnu ar y byd naturiol am lawer o bethau – fel bwyd, meddyginiaethau a chael gwared ar wastraff. Mae gweithgareddau pobl yn tanseilio gallu’r amgylchedd naturiol i barhau i ddarparu’r buddion hyn. Gall gwneud ychydig o bethau bob dydd helpu, fel gwastraffu llai o fwyd a phrynu cynhyrchion sy’n ystyried yr amgylchedd.
Amcangyfrifodd un astudiaeth bod gwerth byd-eang y byd naturiol rhwng 16 a 34 triliwn o ddoleri’r UDA y flwyddyn
Er y gall bywydau modern yn aml ymddangos fel nad ydynt yn rhan o natur, mae pawb yn dibynnu ar fuddion o’r byd naturiol ar gyfer eu lles a’u goroesiad:
- mae’r byd naturiol yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd – mae systemau morol yn darparu pysgod, mae pryfed yn peillio cnydau ac mae creaduriaid byw yn ffurfio pridd ac yn ei gadw’n ffrwythlon
- mae gwlyptiroedd naturiol yn storio ac yn puro dŵr, yn cael gwared ar lygryddion niweidiol, a gallant helpu i amddiffyn rhag llifogydd
- mae tua 50 y cant o’r holl feddyginiaethau presgripsiwn yn seiliedig ar gemegion o blanhigion ac anifeiliaid
- mae ardaloedd naturiol a mannau gwyrdd yn rhoi heddwch a distawrwydd, ac yn lleoedd i hamddena ac ymlacio
Beth yw gwerth y buddion hyn?
Mae rhoi gwerth ariannol ar y buddion a gaiff pobl gan y byd naturiol yn helpu i ddangos pa mor bwysig ydyw. Amcangyfrifodd un astudiaeth bod gwerth byd-eang y byd naturiol rhwng 16 a 34 triliwn o ddoleri’r UDA y flwyddyn.
Mynd i’r afael â thlodi
Mae pobl dlotaf y byd yn aml yn dibynnu bron yn uniongyrchol ar yr amgylchedd naturiol i oroesi, ac mae’r difrod i’r byd naturiol wedi’i nodi fel rhwystr mawr o ran mynd i’r afael â thlodi difrifol. Mae nodau fel yr ymgyrch ‘rhoi terfyn ar dlodi’ yn gysylltiedig iawn â gofalu am ein systemau naturiol.
Mae galw pobl am fwyd, dŵr, ynni a deunyddiau – a’r gwastraff sy’n deillio o hyn – yn achosi difrod i’r byd naturiol gan ei fod yn arwain at broblemau fel:
- newid mewn cynefinoedd naturiol, megis clirio coedwigoedd i dyfu bwyd
- gormod o bethau’n cael eu cymryd o’n systemau naturiol i’w galluogi i ailgyflenwi – er enghraifft, mae pysgod yn cael eu dal cyn iddynt gael cyfle i ddodwy mwy
- llygredd yn mynd i’r amgylchedd yn gynt nag a gaiff ei dorri i lawr
- nwyon tŷ gwydr sy’n achosi newid yn yr hinsawdd
Yn 1961, defnyddiodd y boblogaeth tua hanner o’r buddion y gall systemau naturiol y byd barhau i’w darparu bob blwyddyn. Erbyn 2001, roedd pobl yn defnyddio 20 y cant yn fwy na’r hyn allai’r byd ei ddarparu heb achosi difrod i’r systemau naturiol neu eu disbyddu. O ganlyniad, dengys tystiolaeth bod dros hanner y prif fuddion a ddarperir gan y byd naturiol wedi dirywio, gan gynnwys gallu’r byd i drin a dadwenwyno gwastraff, puro dŵr, a darparu pysgodfeydd naturiol.
Mae pwysau gan bobl yn tanseilio gallu’r byd naturiol i ddarparu buddion hanfodol, gan achosi goblygiadau difrifol i les pobl ym mhobman:
Yn y DU:
- mae amaethu dwys wedi cael effaith ddifrifol ar fawndiroedd, sy’n storfa garbon bwysig. Mae draenio a difrod arall yn rhyddhau’r carbon y maent yn ei storio, gan arwain at allyriadau CO2 a all fod yr un mor gyfrifol am newid yn yr hinsawdd a cheir ac awyrennau
- mae pysgota gormod wedi arwain at ostyngiad o 70 y cant o leiaf mewn stociau pysgod y DU o ran eu gallu i gynhyrchu mwy o bysgod, gyda goblygiadau pwysig i swyddi lleol a’r economi
- mae gorfaethu tir wedi effeithio ar y rhan fwyaf o ddŵr ffres yn Lloegr o ganlyniad i ffermio a charthffosiaeth. Gall hyn ysgogi algae i dyfu, a allai leihau lefelau ocsigen a lladd planhigion ac anifeiliaid
Byd-eang
- mae rhwng 10 a 50 y cant o lawer o grwpiau adnabyddus o anifeiliaid a phlanhigion mewn perygl o ddiflannu, gan gynnwys cannoedd o blanhigion y caiff meddyginiaethau pwysig eu creu ohonynt
- mae tri chwarter o bysgodfeydd morol gwyllt wedi’u defnyddio’n llawn neu wedi’u gorddefnyddio’n fyd-eang. Amcangyfrifir ei bod yn debygol y bydd llawer o bysgodfeydd masnachol y byd wedi cwympo mewn llai na 50 mlynedd os bydd y tueddiadau presennol yn parhau
- mae llygredd wedi lledaenu cymaint bellach fel y tybir bod bron pob anifail morol yn y byd wedi’i halogi â chemegion gwneud. Mae rhai o’r cemegion hyn yn achosi niwed i bobl, felly ni all menywod beichiog na phlant fwyta rhai pysgod penodol gan nad ydynt yn ddiogel

Mae llawer o bethau y gallwch ei wneud yn eich bywyd bob dydd i helpu
Mae’r byd naturiol yn bwysig i Brydain. Y llynedd, roedd ffigurau gwylio Springwatch (rhaglen am fywyd gwyllt Prydain) yn debyg iawn i ffigurau gwylio Big Brother. Ond gall fod yn anodd weithiau dangos sut y gall un person wneud gwahaniaeth.
Achosir y difrod yn y pen draw gan alw bob dydd pobl. Felly, wrth feddwl am eich gweithredoedd bob dydd, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth allwch ei wneud i wneud gwahaniaeth.
