Rheolau treth car :Cross Stitch – Moduro

Rhaid trethu pob cerbyd a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig os yw’n cael ei ddefnyddio neu’n cael ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Os caiff y cerbyd ei gadw oddi ar y ffordd, mae’n rhaid iddo naill ai gael ei drethu neu mae’n rhaid cael HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) mewn grym. Os na wneir hyn, gallai’r cerbyd gael ei symud neu gellid clampio ei olwynion.
I drethu’ch cerbyd, bydd angen y canlynol arnoch:
- ffurflen atgoffa V11 neu V10 ‘Cais am Drwydded Cerbyd’ wedi’i llenwi
- eich tystysgrif cofrestru (V5C) neu Atodiad Ceidwad Newydd, os ydych yn defnyddio V10
- ffurflen V62 ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd V5C’ wedi’i llenwi os nad oes gennych dystysgrif cofrestru
- tystysgrif prawf MOT (os yw eich car neu’ch beic modur dros dair oed)
- yswiriant rhag hawliadau trydydd parti yn eich erbyn ar gyfer marwolaeth neu anaf a niwed i eiddo yn sgil defnyddio’r cerbyd
- y taliad ar gyfer y dreth cerbyd (does dim angen hwn os yw eich cerbyd wedi’i eithrio rhag talu treth cerbyd)
Ni ellir trethu cerbyd sydd wedi’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon yng Nghymru, Lloegr na’r Alban.
Dylech arddangos eich disg treth ar ffenestr flaen eich cerbyd ar ochr y teithiwr (ochr y palmant). Os nad oes gan eich cerbyd ffenestr flaen neu os oes gennych feic modur neu gerbyd ochr, dylech arddangos eich disg treth ar eich cerbyd ar ochr y palmant.
Rhaid arddangos disg treth cyfredol ar y cerbyd y prynwyd amdano. Os byddwch yn prynu disg treth newydd cyn i’ch disg treth cyfredol ddod i ben, ni ddylech arddangos yr un newydd nes bod yr hen un wedi dod i ben. Dim ond o ddiwrnod cyntaf y mis yr ydych wedi trethu’ch cerbyd y bydd y disg treth yn ddilys. Y gosb uchaf am fethu ag arddangos disg treth cyfredol yw £200. Ni ellir trosglwyddo’r ddisg treth rhwng cerbydau.
Os byddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth trwyddedu cerbydau’n electronig neu’n trethu’ch cerbyd drwy’r post ar ddiwedd y mis, ceir eithriad bellach am beidio ag arddangos disg treth. Mae’r eithriad hwn yn cynnwys pum niwrnod gwaith cyntaf y mis ac yn caniatáu amser i’r ddisg newydd gyrraedd yn y post. Bydd angen i chi arddangos eich disg treth cyfredol tra’r ydych yn aros am eich disg treth. I gael eich eithrio, mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau cyn i’r ddisg treth neu’r HOS cyfredol ddod i ben.
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cynnal archwiliad cyfrifiadur bob mis, yn ogystal ag archwiliadau ar ochr y ffordd, i ganfod y cerbydau hynny sydd heb ddisg treth dilys. Gallech wynebu cosb awtomatig o £80 yn ogystal â dirwy o £1000 o leiaf. Gallai eich cerbyd gael ei glampio, ei roi dan glo neu ei falu hyd yn oed.
Rhowch wybod i DVLA os byddwch yn gwerthu, yn trosglwyddo, yn sgrapio neu’n allforio’ch cerbyd, neu fel arall byddwch chi’n parhau i fod yn gyfrifol am ei drethu er eich bod wedi cael gwared arno. Llenwch yr adran briodol ar eich tystysgrif cofrestru a’i hanfon i DVLA, Abertawe SA99 1BA. Dylech gael llythyr cydnabyddiaeth o fewn pedair wythnos, a dylech gadw hwn fel prawf fod cofnodion DVLA wedi’u diweddaru. Cysylltwch ag adran ymholiadau cwsmeriaid DVLA os na fyddwch wedi cael y llythyr.
