Rheoli neu newid cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau

Os mai chi yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer y cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, gelwir chi yn ‘berson cyswllt cofrestredig’. Yma, cewch wybod beth yw’ch cyfrifoldebau, pa waith papur y dylech ei gadw a sut mae newid y math o gyfrif, y darparwr neu’r person cyswllt cofrestredig.

Y person cyswllt cofrestredig yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer y cyfrif nes bydd y plentyn yn 16 ac yn cymryd rheolaeth dros y cyfrif.

Chi yw’r unig un a all wneud y canlynol:

  • dweud wrth ddarparwr y cyfrif sut i fuddsoddi’r arian a rheoli’r cyfrif
  • symud y cyfrif at ddarparwr arall
  • newid y math o gyfrif

Dylech gadw golwg ar sut mae’r cyfrif yn perfformio. Bydd datganiadau yn cael eu hanfon atoch, a gwybodaeth arall er mwyn eich helpu i wneud hyn.

Pan fydd eich plentyn yn ddigon hen, dywedwch wrtho am y cyfrif. Mae’n ffordd dda i’w helpu i ddysgu am arian a chynilo.

Dylech gadw’r gwaith papur canlynol gyda’i gilydd mewn lle diogel:

  • Rhif Cyfeirnod Unigryw eich plentyn – dangosir y rhif hwn ar y daleb
  • y datganiadau ar gyfer y cyfrif
  • gwybodaeth arall yn ymwneud â’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
  • manylion y math o gyfrif a’r darparwr

Bydd hyn yn ei gwneud yn haws os bydd angen i chi holi am unrhyw beth, neu wneud unrhyw newidiadau i’r cyfrif.

Mae’n bosib y byddwch am newid y person cyswllt cofrestredig. Er enghraifft, os bydd eich amgylchiadau teuluol yn newid, neu os bydd y person cyswllt cofrestredig yn marw.

Dilynwch y camau canlynol er mwyn newid y person cyswllt cofrestredig:

  • cam un: gofynnwch i’r darparwr am ffurflen gais er mwyn newid y person cyswllt cofrestredig
  • cam dau: mae’n rhaid i chi a’r unigolyn sydd am fod yn berson cyswllt cofrestredig newydd lofnodi’r ffurflen
  • cam tri: dylech roi’r ffurflen yn ôl i’r darparwr

Dim ond rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn all fod yn berson cyswllt cofrestredig, er enghraifft, os mai chi yw’r rhiant arall, y llys-riant neu’r gwarcheidwad cyfreithiol.

Os ydych chi wedi gwahanu oddi wrth y person cyswllt cofrestredig, a’ch bod am gymryd y rôl hon yn ei le, bydd rhaid i’r ddau ohonoch gytuno i hyn.