Rhoi gwybod am basbort sydd ar goll neu wedi'i ddwyn :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Os ydych wedi colli eich pasbort neu os yw wedi cael ei ddwyn bydd yn rhaid i chi roi gwybod am hyn ar unwaith, hyd yn oed os nad ydych am gael un newydd yn ei le yn syth. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi’i Ddwyn. Cael gwybod sut i gael y ffurflen a beth i’w wneud os yw’ch pasbort yn cael ei golli dramor.

Os ydych wedi colli eich pasbort neu os yw wedi cael ei ddwyn, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Bydd hyn yn lleihau’r risg o gael rhywun arall yn defnyddio eich pasbort neu eich manylion personol. I roi gwybod bod eich pasbort ar goll neu wedi’i ddwyn, llenwch ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi’i Ddwyn (LS01) a’i dychwelyd i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Dylech ddweud wrth yr heddlu am bob achos o ddwyn pasbort. Bydd angen manylion cyfeirnod y trosedd arnoch ar gyfer y ffurflen LS01.

Gallwch wneud cais am basbort newydd ar yr un pryd â rhoi gwybod bod eich pasbort wedi cael ei ddwyn, ar yr amod eich bod:

  • yn ddinesydd Prydeinig
  • yn y DU pan fyddwch yn gwneud y cais

Er mwyn cael pasbort newydd yr un pryd â phan fyddwch yn rhoi gwybod ei fod ar goll neu wedi’i ddwyn, ewch i ‘Cael pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi’i ddwyn neu wedi’i ddifrodi’.

Os caiff pasbort eich plentyn ei golli neu ei ddwyn yn y DU

Os caiff pasbort eich plentyn ei golli neu ei ddwyn yn y DU, dylech ei riportio ar ei ran drwy ddefnyddio ffurflen LS01. Sylwer y bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n cymharu eich llofnod chi â’r llofnod ar y ffurflen gais am y pasbort gwreiddiol. Os mai rhywun arall wnaeth y cais gwreiddiol, bydd angen i chi anfon llythyr wedi’i lofnodi gan yr unigolyn hwnnw gyda’r ffurflen LS01. Dylai’r llythyr gadarnhau bod y pasbort gwreiddiol ar goll neu wedi cael ei ddwyn. Pwrpas hyn yw lleihau’r risg o gipio plant.

Os ydych chi dramor, dylech roi gwybod am bob achos o golli neu ddwyn pasbort wrth heddlu lleol y wlad rydych yn ymweld â hi, a hynny cyn gynted â phosib. Bydd arnoch angen manylion cyfeirnod y trosedd a ddarparant ar gyfer ffurflen LS01.

Dylech hefyd roi gwybod bod y pasbort ar goll neu wedi’i ddwyn wrth lysgenhadaeth Swyddfa Dramor a Chymanwlad y DU (FCO), is-genhadaeth neu uwch gomisiwn y wlad rydych yn ymweld â hi. Gallwch gael manylion eich swyddfa Dramor a Chymanwlad leol ble bynnag yr ydych drwy:

  • ffonio +44 (0)20 7008 1500 (0870 606 0290 o fewn y DU)
  • ymweld â gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, byddant yn rhoi ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi’i Ddwyn (LS01) i chi ei llenwi a’i llofnodi. Gallwch hefyd lwytho’r ffurflen hon oddi ar y we os byddwch yn ei cholli neu os bydd angen copi arall arnoch.

Bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cofnodi bod eich pasbort ar goll neu wedi’i ddwyn, ac yna’n anfon yr wybodaeth at y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Yna bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn diddymu eich pasbort er mwyn lleihau’r risg o rywun arall yn defnyddio eich manylion personol.

Bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn rhoi dogfennau teithio i chi yn lle eich pasbort er mwyn i chi allu dychwelyd i’r DU.

Cael pasbort newydd

Gallwch wneud cais am basbort newydd unwaith y byddwch yn ôl yn y DU. Mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell i chi wneud hyn cyn gynted â phosib. Gallwch wneud cais am basbort newydd ar yr amod eich bod yn ddinesydd Prydeinig a’ch bod yn y DU pan fyddwch yn gwneud y cais.

Os oedd eich plentyn wedi’i gynnwys ar eich pasbort sydd ar goll, wedi’i ddwyn neu wedi’i ddifrodi, ni ellir ei gynnwys ar eich pasbort newydd. Bydd angen i chi wneud cais am basbort plentyn cyntaf ar gyfer eich plentyn os yw’n iau nag 16 oed.

Os byddwch yn dod o hyd i’ch pasbort wrth i chi lenwi’r ffurflen ar-lein

Os ydych wedi llenwi ffurflen ar-lein yn datgan eich bod wedi colli eich pasbort ond y byddwch yn dod o hyd i’ch pasbort cyn dychwelyd y ffurflen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau, peidiwch â llofnodi’r ffurflen y byddant yn ei hanfon atoch. Dylech ei dychwelyd gyda nodyn ar wahân yn cadarnhau eich bod wedi dod o hyd i’ch pasbort ac nad ydych am ei ddiddymu mwyach.

Os bydd rhywun arall yn dod o hyd i’ch pasbort sydd ar goll neu wedi’i ddwyn

Os bydd rhywun arall, megis un o adrannau eraill y llywodraeth neu’r heddlu, yn dod hyd i’ch pasbort neu’n ei dderbyn, byddant yn ei ddychwelyd i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau Ni fyddant yn eich ddychwelyd i chi. Caiff pob pasbort a gollwyd sy’n cael eu dychwelyd i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau eu dinistrio am resymau diogelwch.

Cysylltiadau defnyddiol