Sefyll eich prawf theori os oes gennych chi anghenion arbennig :Cross Stitch – Moduro

Pan fyddwch yn trefnu eich prawf theori, dylech ddweud os oes gennych unrhyw anghenion arbennig. Os byddwch yn gwneud hyn, gall yr Asiantaeth Safonau Gyrru addasu eich prawf yn rhesymol. Yn y fan hon, cewch wybod beth fydd angen i chi ei ddweud wrth yr Asiantaeth Safonau Gyrru os oes gennych chi anghenion arbennig.
Gallwch ofyn am gyfleuster trosleisio mewn un o 21 iaith:
- os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf
- os nad ydych chi’n gallu darllen na deall Saesneg ysgrifenedig yn dda
Sut mae’r cyfleuster trosleisio’n gweithio
Bydd y cyfleuster trosleisio yn eich galluogi i glywed cyfarwyddiadau a chwestiynau’r prawf theori drwy glustffonau.
Bydd y cwestiynau’n cael eu darllen i chi’n awtomatig. Bydd modd i chi glywed yr atebion posib drwy glicio ar y testun ar y sgrin.
Gallwch glywed y cwestiynau cynifer o weithiau ag y dymunwch drwy glicio ar y cwestiwn unwaith eto.
Ieithoedd trosleisio sydd ar gael ar gyfer profion theori
Mae’r cyfleuster trosleisio ar gael yn yr ieithoedd canlynol:
- Albaneg
- Arabeg
- Bengaleg
- Cantoneg
- Cwrdeg
- Welsh
- Dari
- Ffarsi
- Gwjarati
- Hindi
- Kashmiri
- Mirpuri
- Portiwgaleg
- Pushto
- Pwnjabeg
- Pwyleg
- Saesneg
- Sbaeneg
- Tamil
- Tyrceg
- Wrdw
Os nad oes cyfleuster trosleisio ar gael yn eich dewis iaith, gallwch ofyn am gael prawf theori gyda chymorth cyfieithydd.
Gall yr asiant yn y ganolfan alw roi enwau a manylion cyswllt cyfieithwyr cymeradwy’r Asiantaeth i chi.
Mae’n rhaid i chi drefnu dyddiad gyda’r cyfieithydd, a thalu ei ffioedd.
Mae’n rhaid i chi brofi bod gennych chi anawsterau darllen os oes arnoch angen rhagor o amser ar gyfer yr adran amlddewis.
Os oes gennych chi ddyslecsia neu anawsterau darllen eraill, fe allwch chi ofyn am droslais Welsh neu Saesneg.
Fe allwch chi hefyd wneud cais i gael hyd at ddwywaith yr amser ar gyfer rhan amlddewis y prawf theori. Os oes arnoch angen mwy o amser na’r amser arferol, mae’n rhaid i chi anfon tystiolaeth o’ch anawsterau darllen i’r adran gwasanaethau cwsmeriaid sy’n ymdrin ag archebu profion theori.
Gallwch ofyn am gael sefyll y prawf theori yn Iaith Arwyddion Prydain, neu fynd â chyfieithydd gyda chi i’r ganolfan brawf
Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, fe allwch chi ofyn am gael sefyll y prawf theori yn iaith arwyddion Prydain.
Bydd y dehongliad iaith arwyddion yn cydredeg â chwestiynau ac atebion safonol y prawf.
Os nad ydych chi’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, gallwch fynd â chyfieithydd i’r ganolfan brawf gyda chi. Mae angen trefnu hyn drwy’r adran gwasanaethau cwsmeriaid sy’n ymdrin ag archebu profion theori.
Ni chodir unrhyw dâl ychwanegol am y cais hwn.
Os oes gennych anghenion arbennig, ond na fyddai’r cyfleusterau hyn yn eich helpu, cysylltwch â’r Asiantaeth Safonau Gyrru. Yna, gallwch sôn wrth yr Asiantaeth am eich anghenion a chael gwybod am y cyfleusterau eraill a allai fod ar gael i chi.
