Sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau
Os credwch fod penderfyniad am eich budd-daliadau yn anghywir, gallwch ofyn i’r swyddfa a wnaeth y penderfyniad ei esbonio. Gallwch hefyd ofyn am gael ailystyried y penderfyniad, ac os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon, gallwch apelio i dribiwnlys annibynnol yn erbyn y penderfyniad.
Pan fydd y swyddfa fudd-daliadau yn anfon llythyr atoch am eu penderfyniad, os byddwch yn anghytuno, gallwch ofyn iddynt esbonio neu ailystyried y penderfyniad.
Os ydych yn anfodlon gyda phenderfyniad sydd wedi’i ailystyried gallwch apelio.
Gallwch ofyn am esboniad neu ailystyriaeth o bob penderfyniad, ond ni allwch apelio yn erbyn rhai penderfyniadau budd-dal.
Er enghraifft, ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad ar:
- Benthyciadau Cyllidebu
- Grantiau Gofal Cymunedol
- Benthyciadau Argyfwng
Bydd y llythyr penderfyniad yn egluro os na ellir apelio.
Terfynau amser
Bydd gennych fis:
- ar ôl cael penderfyniad i ofyn am gael esboniad, ailystyried y penderfyniad neu apelio
- ar ôl derbyn penderfyniad sydd wedi’i ailystyried, i ddechrau apêl
Mae’n bosibl y derbynnir apêl hwyr os oes amgylchiadau arbennig wedi eich rhwystro rhag apelio mewn pryd, ond ni allwch wneud hyn os oes mwy na 13 mis wedi mynd heibio.
Ond os ydych yn apelio yn yr achosion canlyno, dilynwch y drefn isod:
Os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad gan yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA), gallwch gysylltu â’r ganolfan CSA a wnaeth y penderfyniad. (Bydd eu manylion cyswllt ar y llythyr sy’n esbonio’r penderfyniad.)
Os ydych yn anfodlon gyda’r canlyniad, gallwch ysgrifennu at Uned Apeliadau Canolog y CSA.
Cael gwybod mwy am beth i’w wneud os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad a wnaed gan y CSA gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol.
Budd-daliadau i bobl anabl
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Lwfans Byw i’r Anabl neu Lwfans Gweini, ffoniwch y Llinell Gymorth Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gweini, 08457 123 456, ffôn testun 08457 224 433 (rhwng 7.30am a 6.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Os ydych yn anfodlon gyda’r canlyniadau, efallai y gallwch apelio gan ddefnyddio taflen yr Adran Gwaith a Phensiynau ‘Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir’.
Tribiwnlys fydd yn gwrando’r apêl; panel o hyd at dri aelod, gydag un ohonynt yn gymwys yn gyfreithiol.
Ceir dau fath o wrandawiad tribiwnlys:
- gwrandawiad llafar – lle byddwch chi neu’ch cynrychiolydd yn cael bod yn bresennol i drafod eich apêl
- gwrandawiad papur – lle na fyddwch chi na’ch cynrychiolydd yn bresennol, ac y penderfynir ar yr achos ar sail y dystiolaeth ysgrifenedig
Bydd rhai sefydliadau’n cynnig help a chyngor (rhai ohonynt am ddim) gyda’ch apêl, gan gynnwys:
- Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)
- grwpiau hawliau lles lleol
- undebau llafur
- canolfannau’r gyfraith
- cyfreithwyr
- Age Concern
Bydd CAB yn eich helpu i lenwi ffurflenni ac mae’n bosibl y byddant yn fodlon dod i’r gwrandawiad gyda chi. Neu, gofynnwch i gynghorydd, cyfaill neu aelod o’r teulu apelio ar eich rhan.
Cymorth ariannol
Gallech hawlio rhywfaint o gostau teithio am fynd i dribiwnlys. Ni allwch hawlio am gostau cyfreithiol a ffioedd cyfreithwyr – hyd yn oed os byddwch yn ennill.
Os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad y tribiwnlys, dim ond dan yr amgylchiadau canlynol y cewch ei herio:
- ni chawsoch ddogfen a ddefnyddiwyd yn y gwrandawiad
- nid oeddech yn y gwrandawiad er eich bod yn dymuno bod yno
Ond os credwch fod y tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad wrth roi’r gyfraith ar waith, gallwch ofyn am ganiatâd i apelio i Uwch Dribiwnlys.
