Sut i ddileu ardystiadau sydd wedi dod i ben o'ch trwydded yrru :Cross Stitch – Moduro

Er mwyn dileu ardystiadau sydd wedi dod i ben o’ch trwydded yrru, bydd angen i chi wneud cais i gyfnewid eich trwydded am un newydd. Gallwch wneud cais drwy’r post, neu os oes gennych drwydded yrru bapur, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth gwirio premiwm.
Deiliad trwydded yrru cerdyn-llun
Bydd angen i chi amgáu’r canlynol:
- eich trwydded yrru cerdyn-llun, y rhan bapur a’r ffi briodol
- dogfen(nau) adnabod gwreiddiol os yw eich enw presennol yn wahanol i’r enw ar eich trwydded yrru
Deiliad trwydded yrru bapur
Bydd angen i chi amgáu’r canlynol:
- llun pasbort, eich trwydded yrru bapur a’r ffi briodol
- dogfennaeth wreiddiol sy’n cadarnhau pwy ydych chi, neu gallwch gytuno i DVLA gadarnhau pwy ydych chi gyda’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS), os oes gennych chi basbort digidol
Anfonwch eich cais, gan gynnwys unrhyw ddogfennau sydd eu hangen, i DVLA, Abertawe SA99 1BU.
Bydd unrhyw gais a wnewch am drwydded yrru newydd yn dileu ardystiadau sydd wedi dod i ben yn awtomatig o’ch trwydded yrru.
Gallwch wneud y ceisiadau canlynol ar-lein a byddant yn dileu eich ardystiadau sydd wedi dod i ben:
- newid manylion eich cyfeiriad
- newid y llun ar eich trwydded yrru
- adnewyddu eich trwydded yrru os yw ar goll, wedi’i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio
- cyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded yrru cerdyn-llun
