Sut i drethu'ch cerbyd heb ffurflen atgoffa :Cross Stitch – Moduro

Gallwch drethu’ch cerbyd gan ddefnyddio ffurflen V10W, ‘Cais am drwydded cerbyd’. Bydd y dogfennau sydd gennych yn penderfynu a allwch chi gael eich disg treth ar-lein, mewn un o ganghennau’r Swyddfa Post® neu mewn swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol.

Os yw eich treth yn dod i ben ddiwedd y mis, gallwch ei hadnewyddu o bumed diwrnod y mis ymlaen.

Os yw eich cerbyd wedi bod heb dreth, oherwydd eich bod newydd ei brynu, gan fod y disg treth wedi dod i ben neu gan fod datganiad HOS mewn grym, cewch ei drethu o ddiwrnod cyntaf y mis pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych am i’r ddisg treth ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis calendr nesaf, gallwch drethu’ch cerbyd o’r ddau ddiwrnod gwaith cyn diwedd y mis mewn Swyddfa’r Post neu bum niwrnod cyn diwedd y mis ar-lein neu dros y ffôn.

Gallwch drethu ar-lein, dros y ffôn, yn bersonol neu drwy’r post.

Trethu ar-lein neu dros y ffôn

Os mai chi yw’r ceidwad cofrestredig, gallwch adnewyddu’ch treth drwy ddefnyddio’r cyfeirnod ar eich Tystysgrif Cofrestru (V5C).

Trethu gyda Thystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd – yn bersonol neu drwy’r post

Gallwch drethu drwy ymweld yn bersonol ag unrhyw un o ganghennau Swyddfa’r Post® sy’n rhoi disgiau treth.

Dylech fynd â’r canlynol gyda chi:

  • Tystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant dros dro – rhaid iddynt fod yn ddilys ar y dyddiad y daw’r ddisg treth i rym
  • tystysgrif MOT ddilys – os yw’r car neu’r beic modur dros dair oed – rhaid iddi fod yn ddilys ar y dyddiad y daw’r ddisg treth i rym
  • y taliad ar gyfer y dreth cerbyd (does dim angen hwn os yw eich cerbyd wedi’i eithrio rhag talu treth cerbyd)

Gallwch hefyd drethu mewn swyddfa DVLA leol neu drwy’r post i rai o ganghennau Swyddfa’r Post®.

  • Tystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd
  • Cais am drwydded cerbyd’ V10W wedi’i llenwi
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant dros dro – rhaid iddynt fod yn ddilys ar y dyddiad y daw’r ddisg treth i rym
  • tystysgrif MOT ddilys – os yw’r car neu’r beic modur dros dair oed – rhaid iddi fod yn ddilys ar y dyddiad y daw’r ddisg treth i rym
  • y taliad ar gyfer y dreth cerbyd (does dim angen hwn os yw eich cerbyd wedi’i eithrio rhag talu treth cerbyd)

Dim ond am ddau fis ar ôl i chi brynu’r cerbyd y gellir defnyddio’r Atodiad Ceidwad newydd ar gyfer trethu. Fodd bynnag, bydd y swyddfa DVLA leol yn ei dderbyn ar gyfer trethu am hyd at dair wythnos ar ddeg o’r dyddiad prynu. Os yw’n hen, bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Cofrestru yn eich enw chi – ewch i ‘Trethu heb Dystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd’ isod.

Newid enw a/neu gyfeiriad

Ysgrifennwch y manylion newydd neu unrhyw gywiriadau yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru, ei llofnodi a’i chynnwys gyda’ch cais am dreth.

Newid dosbarth treth

Os byddwch chi’n newid y dosbarth treth o ddosbarth preifat i anabl, cyhyd â bod y Dystysgrif Cofrestru gyflawn gennych, gallwch drethu yn un o ganghennau Swyddfa’r Post®.

Os mai’r Atodiad Ceidwad Newydd yn unig sydd gennych ar gyfer newidiadau eraill i’r dosbarth treth ee o anabl i breifat, bydd angen i chi fynd i’ch swyddfa DVLA leol agosaf. Ysgrifennwch y dosbarth treth newydd yn adran saith eich Tystysgrif Cofrestru. Os byddwch yn defnyddio Atodiad Ceidwad Newydd, bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen V62W ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5CW)’.

Os yw cofnodion DVLA yn dangos mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd, gallwch drethu’n bersonol neu drwy’r post yn eich swyddfa DVLA leol agosaf.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen V62W ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd’ (V5CW) a thalu £25 (ffi am Dystysgrif Cofrestru ddyblyg). Dylech ei chynnwys gyda V10W ‘Cais am drwydded cerbyd’ wedi’i llenwi, MOT, yswiriant a’r taliad am y dreth cerbyd.

Os yw eich cyfeiriad wedi newid, bydd angen i chi ddarparu eich trwydded yrru, cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu wreiddiol, neu fil diweddar gan un o’r prif wasanaethau. Os yw’ch enw wedi newid, bydd angen i chi ddarparu eich tystysgrif priodas, archddyfarniad nisi/absoliwt neu ddatganiad gweithred newid enw.

Os nad chi sy’n cael eich enwi fel y ceidwad cofrestredig ar gofnodion DVLA ni allwch drethu’r cerbyd. Bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Cofrestru yn eich enw chi. I gael y dystysgrif, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62W ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd’ a’i phostio i DVLA, Abertawe, SA99 1DD. Efallai y bydd angen i chi aros am hyd at bedair wythnos am y dystysgrif newydd. Yn y cyfamser, dylech gadw’ch cerbyd oddi ar y ffordd.