Sut i gyfnewid disg dreth :Cross Stitch – Moduro

Bydd angen i chi gyfnewid eich disg treth os gwnewch unrhyw newidiadau i adeiladwaith eich cerbyd neu i’w ddefnydd a fydd yn newid dosbarth treth eich cerbyd neu faint o dreth cerbyd rydych yn ei thalu.

Dylech gyfnewid eich disg treth os byddwch yn newid y canlynol:

  • dosbarth treth (nid yw hyn yn berthnasol i ddosbarthiadau treth lle nad oes rhaid talu treth cerbyd)
  • maint yr injan (capasiti’r silindrau)
  • y math o danwydd a ddefnyddir
  • pwysau cerbyd nwyddau
  • nifer y seddi ar fws
  • defnydd cerbyd yr ydych newydd ei brynu

Ar gyfer newidiadau i faint yr injan (capasiti’r silindrau) neu’r math o danwydd sy’n golygu y bydd angen talu llai o dreth cerbyd, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o’r newid. Gall y dystiolaeth fod yn dderbynneb ar gyfer yr injan newydd, tystiolaeth ysgrifenedig gan y gwneuthurwr, y cwmni yswiriant neu’r garej a wnaeth y newid.

Cyfnewid eich disg treth mewn person neu drwy’r post yn eich swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) lleol.

Ar gyfer cerbydau nwyddau ysgafn neu breifat

Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:

  • ffurflen V70W ‘Ffurflen Gais – Cyfnewid Trwydded Cerbyd’
  • disg treth gyfredol
  • y Dystysgrif Cofrestru, gydag unrhyw newidiadau wedi’u marcio arni
  • ffurflen V62W wedi’i llenwi ‘Ffurflen Gais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd V5C’ os nad yw’r Dystysgrif Cofrestru ar gael
  • tystysgrif yswiriant ddilys
  • tystysgrif prawf MOT ddilys os oes ei hangen
  • taliad ychwanegol ar gyfer y dreth cerbyd os oes ei angen (darllenwch ‘Talu treth cerbyd ychwanegol’ isod)
  • tystiolaeth ysgrifenedig o newidiadau am ostyngiad ym maint yr injan neu newid tanwydd