Sut i roi gwybod i DVLA eich bod wedi rhoi'r gorau i yrru neu fod angen i chi roi'r gorau i yrru :Cross Stitch – Moduro

Os ydych wedi datblygu cyflwr meddygol sy’n golygu na allwch yrru’n ddiogel, mae’n bosib y bydd eich meddyg yn dweud wrthych am roi’r gorau i yrru ar unwaith. Os felly, dylech ildio eich trwydded yrru i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Bydd eich meddyg yn dweud wrthych pryd y byddwch yn ddigon da i ailddechrau gyrru.
Drwy ildio’ch trwydded, ni fydd angen i’r DVLA wneud ymholiadau meddygol ffurfiol am eich ffitrwydd i yrru. Os bydd rhaid gwneud ymholiadau meddygol a bod y rhain yn cadarnhau nad ydych yn gallu bodloni’r safonau meddygol angenrheidiol ar gyfer ffitrwydd i yrru, yna bydd rhaid diddymu eich trwydded. Darllenwch yr adran berthnasol isod ar gyfer y math o drwydded sydd gennych chi.
Os ydych yn dymuno ailddechrau gyrru yn y dyfodol, efallai y gallwch yrru dan Adran 88 Deddf Traffig Ffyrdd 1988, cyn gynted ag y bydd DVLA yn derbyn eich cais, ar yr amod eich bod yn bodloni’r meini prawf canlynol:
- mae gan y DVLA gais dilys gennych
- rhaid i chi fod wedi meddu ar drwydded Prydain Fawr neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded arall y gellir ei chyfnewid, er 1 Ionawr 1976
- rydych yn glynu wrth unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i chi a’r drwydded
- nid ydych wedi’ch gwahardd rhag gyrru
- gallwch fodloni’r safonau meddygol ar gyfer ffitrwydd i yrru
Nodwch os gwelwch yn dda, os byddwch yn ildio eich trwydded yrru ni fydd rhaid i chi sefyll prawf gyrru arall.
Mae’r safonau meddygol ar gyfer ffitrwydd i yrru wedi’u nodi yn yr arweiniad ‘At a glance guide to the current standards of fitness to drive’. Gall pob gweithiwr meddygol gael gafael ar gopi o’r cyhoeddiad hwn, ac felly os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich gallu i fodloni’r safonau hyn, dylech holi eich meddyg cyn i chi ailddechrau gyrru.
Ar ôl i chi lenwi eich datganiad, gallwch ei anfon i DVLA drwy’r post.
Post Grŵp Meddygol y GyrwyrDVLAAbertawe
SA99 1TU
