Sut i wneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) :Cross Stitch – Moduro

Os mai chi yw ceidwad cofrestredig cerbyd sydd ddim yn cael ei drethu ac yn cael ei gadw oddi ar y ffordd, rhaid i chi wneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol). Yma cewch wybod sut y gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn neu pan fyddwch yn gwneud cais am ad-daliad ar eich treth cerbyd.

Gallwch wneud datganiad HOS ar-lein neu dros y ffôn cyn belled mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd. Wrth wneud datganiad HOS ar-lein gallwch argraffu’r dudalen gadarnhau ar gyfer eich cofnodion. Hefyd, os byddwch yn rhoi eich cyfeiriad e-bost wrth wneud datganiad HOS ar-lein cewch e-bost cadarnhau ar gyfer y trafodyn. Ni anfonir llythyr cadarnhau.

Gwneud datganiad HOS dros y ffôn

Ffoniwch 0300 123 4321 – defnyddiwch y cyfeirnod a ddangosir ar eich tystysgrif cofrestru V5C, eich ffurflen atgoffa V11W neu’ch ffurflen atgoffa V85/1W.

Os ydych wedi dod yn geidwad cofrestredig y cerbyd ac wedi derbyn eich V5C yn ystod y mis presennol bydd angen i chi lenwi ffurflen V890W ‘Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol’ (HOS) a’i hanfon at y DVLA, Abertawe SA99 1AR.

Er enghraifft, os daethoch yn geidwad ar 4 Rhagfyr ac wedi derbyn y V5C ar 26 Rhagfyr bydd angen i chi lenwi V890W. Os daethoch yn geidwad ar 28 Tachwedd ac wedi derbyn y V5CW ar 20 Rhagfyr gallech wneud datganiad HOS ar-lein neu dros y ffôn.

Os ydych yn prynu cerbyd sydd eisoes â datganiad HOS a wnaed gan y ceidwad blaenorol, bydd y HOS hwnna yn dod i ben ar y dyddiad yr ydych chi’n prynu’r cerbyd. Mae’n rhaid i chi wneud HOS newydd os ydych yn cadw’r cerbyd heb ei drethu i ffwrdd o’r ffordd gyhoeddus. Ni allwch drosglwyddo HOS.

Ar ôl gwneud datganiad HOS dylai DVLA anfon llythyr atoch yn cadarnhau hyn. Os na fyddwch wedi derbyn y llythyr ar ôl pedair wythnos o wneud y HOS, dylech gysylltu â llinell ymholiadau cwsmeriaid DVLA yn syth ar 0300 790 6802 (os ydych wedi gwneud HOS ymlaen llaw dylech aros 4 wythnos ar ôl ddyddiad terfyn y dreth neu HOS blaenorol).