Sut mae trefnu a rheoli eich apwyntiad prawf gyrru ymarferol :Cross Stitch – Moduro

Os hoffech chi drefnu, gweld manylion, newid neu ganslo eich prawf gyrru ymarferol, y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hyn yw ar-lein. Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn argymell i chi drefnu eich prawf ar wefan Cross & Stitch. Gallwch drefnu prawf dros y ffôn neu drwy’r post hefyd. Yma cewch wybod sut mae trefnu a rheoli eich prawf ymarferol.

Dod o hyd i rif eich tystysgrif pasio prawf theori ar-lein os ydych wedi colli’ch llythyr gwreiddiol

Ar gyfer y rhan fwyaf o brofion gyrru, bydd yr Asiantaeth Safonau Gyrru yn anelu at drefnu prawf ymarferol i chi cyn pen naw wythnos. Er hynny, mae’r amser aros yn wahanol ym mhob rhan o’r wlad ac ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Felly, efallai y bydd eich amser aros yn llai neu’n fwy, yn dibynnu ar ble a phryd y byddwch chi’n sefyll eich prawf.

Eich rhif tystysgrif prawf theori

Bydd arnoch angen rhif eich tystysgrif prawf theori er mwyn trefnu eich prawf. Gallwch ddod o hyd i rif eich tystysgrif pasio prawf theori ar-lein os ydych wedi colli’ch llythyr gwreiddiol.

Pan fyddwch yn trefnu eich prawf ymarferol, dylech ddweud os oes gennych unrhyw anghenion arbennig, er mwyn i’r Asiantaeth Safonau Gyrru allu gwneud addasiadau rhesymol i’ch profion. Gallwch gael gwybod beth fydd angen i chi ei ddweud wrth yr Asiantaeth Safonau Gyrru os oes gennych chi anghenion arbennig drwy ddilyn y ddolen isod.

Mae’n gyflymach ac yn haws trefnu prawf ymarferol ar-lein

Gallwch dalu gyda siec neu archeb bost, ond ni dderbynnir arian parod.

Nid yw’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn darparu tocynnau rhodd fel ffordd o dalu am brofion gyrru. Os oes arnoch chi eisiau talu am y prawf theori fel anrheg i rywun, mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn argymell i chi roi’r arian iddynt. Yna gallant drefnu eu prawf ar-lein ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw.

I newid neu ganslo eich apwyntiad, rhowch o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd i osgoi colli eich ffi – nid yw dydd Sul yn cyfrif fel diwrnod gwaith

Gweld manylion apwyntiad eich prawf ymarferol

Gallwch weld manylion eich apwyntiad, gan gynnwys dyddiad ac amser y prawf, a chael gwybod ym mha ganolfan y mae’r prawf yn cael ei gynnal.

Newid apwyntiad eich prawf ymarferol

Gallwch symud eich apwyntiad i ddyddiad cynharach neu hwyrach, os oes un ar gael. Weithiau, bydd apwyntiadau cynharach ar gael gan fod pobl eraill wedi canslo eu profion. Bydd angen i chi roi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn eich prawf gyrru er mwyn osgoi colli eich ffi. Nid yw dydd Sul yn cyfrif fel diwrnod gwaith.

Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn argymell eich bod yn edrych arno’n gyson os ydych am ddod o hyd i le gwag ar ôl i rywun arall ganslo.

Gallwch ganslo apwyntiad eich prawf ymarferol os yw wedi cael ei drefnu’n barod.

Bydd angen i chi roi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn eich prawf gyrru er mwyn osgoi colli eich ffi. Mae dydd Sadwrn yn cyfrif fel diwrnod gwaith.

Bydd gofyn i chi gael:

  • rhif eich tystysgrif pasio prawf theori
  • rhif cyfeirnod eich ffurflen archebu

Os ydych chi wedi trefnu prawf ymarferol yn barod ond yr hoffech ei sefyll ar ddyddiad cynharach, gallwch ddefnyddio gwasanaeth adnabod llais datblygedig yr Asiantaeth Safonau Gyrru.

Bydd y gwasanaeth yn gadael i chi aildrefnu eich prawf ymarferol ar ddyddiad cynharach os oes apwyntiad ar gael. Ni fydd angen i chi siarad ag asiant mewn canolfan alw i aildrefnu.

Sut a phryd i ddefnyddio’r gwasanaeth adnabod llais

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael rhwng 6.00 am a hanner nos, saith niwrnod yr wythnos.

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth, ffoniwch 0300 200 1122 a dilynwch y canllawiau. Bydd arnoch angen:

  • rhif eich tystysgrif pasio prawf theori
  • rhif cyfeirnod eich ffurflen archebu

Mwy o ddolenni defnyddiol