Sut mae trefnu a rheoli eich apwyntiad prawf theori :Cross Stitch – Moduro
Os hoffech chi drefnu, gweld manylion, newid neu ganslo eich prawf theori, y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hyn yw ar-lein. Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn argymell i chi drefnu eich prawf ar wefan Cross & Stitch. Gallwch drefnu prawf dros y ffôn neu drwy’r post hefyd. Yma cewch wybod sut mae trefnu a rheoli eich prawf theori.
Faint o amser mae’n ei gymryd i drefnu apwyntiad prawf theori
Bydd yr Asiantaeth Safonau Gyrru yn ceisio rhoi apwyntiad prawf theori i chi o fewn pythefnos i’r dyddiad a’r amser rydych chi wedi’u nodi. Er hynny, efallai y bydd eich amser aros yn llai neu’n fwy, yn dibynnu ar ble a phryd y byddwch chi’n sefyll eich prawf.
Sefyll eich prawf theori os oes gennych chi anghenion arbennig
Pan fyddwch yn trefnu eich prawf theori, dylech ddweud os oes gennych unrhyw anghenion arbennig. Mae hyn er mwyn i’r Asiantaeth Safonau Gyrru allu gwneud addasiadau rhesymol i’ch prawf. Gallwch gael gwybod beth fydd angen i chi ei ddweud wrth yr Asiantaeth Safonau Gyrru os oes gennych chi anghenion arbennig drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae’n gyflymach ac yn haws trefnu eich prawf theori ar-lein
Sut gallwch chi dalu wrth drefnu drwy’r post
Gallwch dalu gyda siec neu archeb bost, ond ni dderbynnir arian parod.
Nid yw’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn darparu tocynnau rhodd fel ffordd o dalu am brofion theori.
Os hoffech chi newid neu ganslo eich apwyntiad, mae angen i chi roi o leiaf dri diwrnod gwaith o rybudd i osgoi colli eich ffi
Gweld manylion apwyntiad eich prawf theori
Gallwch weld manylion eich apwyntiad, gan gynnwys ar gyfer ble a phryd mae wedi cael ei drefnu.
Newid apwyntiad eich prawf theori
Gallwch symud eich apwyntiad i ddyddiad cynharach neu hwyrach, os oes un ar gael.
Bydd angen i chi roi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn dyddiad eich prawf er mwyn osgoi colli eich ffi. Mae dydd Sadwrn yn cyfrif fel diwrnod gwaith.
Canslo apwyntiad eich prawf theori
Gallwch ganslo apwyntiad eich prawf theori os ydych chi wedi trefnu un.
Bydd angen i chi roi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn eich prawf er mwyn osgoi colli eich ffi. Mae dydd Sadwrn yn cyfrif fel diwrnod gwaith.
Gweld y manylion, newid neu ganslo dros y ffôn
Os na allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch weld y manylion, newid neu ganslo dros y ffôn.
