Taliadau cyflogwyr a'r llywodraeth i bensiynau'r gweithle :Cross Stitch – Pensiynau a chynllunio ar gyfer ymddeol

Un o fuddiannau pensiwn y gweithle yw’r ffaith y bydd eich cyflogwr a’r llywodraeth yn cyfrannu hefyd pan fyddwch yn talu i mewn iddo. Bydd y swm yn dibynnu ar gynllun pensiwn eich cyflogwr. Yma, cewch wybod faint y gallai hyn fod a sut i gael amcangyfrif o beth y byddwch yn ei gael.

Yn wahanol i ffyrdd eraill o gynilo, mae pensiwn y gweithle yn golygu nad chi yw’r unig un sy’n talu arian i mewn. Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu hefyd, ar yr amod eich bod yn ennill dros £5,564 y flwyddyn.

Byddwch hefyd yn cael cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth. Mae hyn yn golygu y bydd rhywfaint o’r arian a fyddai wedi cael ei dalu i’r llywodraeth fel treth incwm yn cael ei dalu i’ch pensiwn y gweithle yn lle hynny.

Mae faint y byddwch chi, eich cyflogwr a’r llywodraeth yn ei dalu i mewn i’ch pensiwn yn dibynnu ar y math o gynllun pensiwn a gynigir gan eich cyflogwr. Gall pwy bynnag sy’n cynnal eich cynllun pensiwn roi rhagor o wybodaeth i chi.

Bydd eich cyflogwr yn cymryd eich cyfraniad yn uniongyrchol o’ch cyflog. Mae hyn yn berthnasol ni waeth pa mor rheolaidd y cewch eich talu, er enghraifft, yn ddyddiol, yn wythnosol, yn fisol neu bob pedair wythnos.

Caiff y cyfraniadau i bensiwn gweithle John eu cyfrifo fel canran o’i gyflog sylfaenol crynswth. Ystyr ‘crynswth’ yw cyn didynnu treth, ystyr ‘sylfaenol’ yw heb gynnwys goramser na bonysau.

Mae John yn ennill £12,000 y flwyddyn (£1,000 y mis). Dyna ei gyflog sylfaenol crynswth. Caiff ei dalu’n fisol.

Mae cynllun pensiwn ei gyflogwr yn defnyddio’r canrannau canlynol i gyfrifo’r cyfraniadau:

  • cyfraniad John – mae’n talu pedwar y cant o’i gyflog sylfaenol crynswth
  • cyfraniad y cyflogwr – swm sy’n cyfateb i dri y cant o gyflog sylfaenol crynswth John
  • cyfraniad y llywodraeth – ar ffurf rhyddhad treth, swm sy’n cyfateb i un y cant o gyflog sylfaenol crynswth John

Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • mae John yn talu £40 y mis – daw’r swm hwn yn uniongyrchol o’i gyflog misol
  • mae ei gyflogwr yn talu £30 y mis
  • mae’r llywodraeth yn talu £10 y mis, ar ffurf rhyddhad treth ar ei daliad

Felly, er mai £40 y mis y mae John yn ei gyfrannu, £80 y mis yw cyfanswm y cyfraniad i’w bensiwn.

Mae’r llywodraeth wedi pennu lefelau gofynnol o ran yr hyn y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei dalu i mewn a’r cyfanswm a gaiff ei gyfrannu.

Nodwch: Yn yr enghraifft hon, mae cyflogwr John yn talu mwy na’r isafswm sy’n ofynnol gan y llywodraeth. Mae hyn yn golygu y gall rhywun sy’n ennill £12,000 y flwyddyn dderbyn llai gan eu cyflogwr nag y dangosir yma.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y lefelau gofynnol hyn yn ‘Beth i’w ddisgwyl gan eich cyflogwr a’ch pensiwn y gweithle’ – gweler y ddolen ganlynol.

Mae’n bosibl cael syniad o faint y byddwch yn ei gael o bensiwn drwy gael ‘amcangyfrif pensiwn’. Caiff hyn ei alw’n ‘rhagamcaniad pensiwn’ weithiau hefyd. Gallwch ei gael gan bwy bynnag sy’n cynnal eich cynllun pensiwn.

Mae’n bosibl y bydd ganddynt gyfrifydd ar-lein hefyd a all eich helpu i gyfrifo’r incwm y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn ymddeol.

Gallai’r symiau a gaiff eu talu i mewn i’ch pensiwn gynyddu neu ostwng os bydd eich cyflog sylfaenol yn codi neu’n lleihau.

Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau yn caniatáu i chi gynyddu’r swm rydych yn ei dalu i mewn, os byddwch am wneud hynny, hyd at uchafswm penodol. Gall y swm a gaiff ei gyfrannu gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth newid hefyd. Gall pwy bynnag sy’n cynnal eich cynllun pensiwn roi rhagor o wybodaeth i chi.

Mae bod yn rhan o gynllun pensiwn yn y gwaith yn golygu eich bod wedi cymryd cam pwysig tuag at sicrhau’r ffordd o fyw yr hoffech ei chael yn ddiweddarach yn eich bywyd. Bydd angen arian arnoch i dalu biliau, costau trafnidiaeth a bwyd, ond mae’n bosibl y byddwch am gael arian i wneud y canlynol hefyd:

  • rhedeg car
  • cyfarfod â ffrindiau am ginio neu ddiod
  • prynu anrhegion i’ch teulu neu’ch ffrindiau
  • mynd ar ddiwrnodau allan neu wyliau
  • ymgymryd â gweithgareddau chwaraeon neu weithgareddau hamdden eraill

Unwaith y byddwch wedi cael amcangyfrif o’r incwm y gallwch ei ddisgwyl gan eich pensiwn y gweithle, gallwch ystyried a fydd y swm hwnnw yn ddigon.

Os byddwch yn poeni na fydd gennych ddigon, gallech ystyried cyfrannu mwy i’ch pensiwn, gweithio’n hwy, a chynilo mewn ffyrdd eraill. Mynnwch wybod sut y gallwch gynyddu eich incwm pan fyddwch yn ymddeol:

Os ydych yn ennill mwy na £5,564.00 y flwyddyn (dim ond un ceiniog yn fwy hyd yn oed) a’ch bod yn rhan o gynllun pensiwn y gweithle, mae’n rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu ato. Os ydych yn ennill £5,564.00 neu lai y flwyddyn, nid oes yn rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu, ond gall ddewis gwneud hynny.

Noder y gall y ffigur enillion a restrir uchod (£5,564 y flwyddyn) newid bob mis Ebrill. Os bydd yn newid, caiff y dudalen hon ei diweddaru. Mae’r ffigur enillion hwn yn berthnasol ni waeth pa mor rheolaidd y cewch eich talu, er enghraifft, yn ddyddiol, yn wythnosol, yn fisol neu bob pedair wythnos.

Mwy o ddolenni defnyddiol