Terms and Conditions

  • CHWILIAD UWCH
  • CHWILIAD RHAGDDODIAD
  • CHWILIAD PRESENNOL

What are CURRENT style number plates? What are PREFIX style number plates?

Nid amodau a thelerau’r gwerthiant yw’r rhain

Nid amodau a thelerau’r gwerthiant yw’r rhain

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r safle hwn ar gyfer dibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd na fydd yn ymyrryd ar hawliau, nac yn cyfyngu neu atal unrhyw drydydd parti rhag defnyddio a mwynhau’r safle hwn. Mae’r cyfyngiad neu waharddiad yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, neu a all boeni neu achosi pryder neu anghyfleustra i unrhyw un, a throsglwyddo cynnwys aflednais neu ymosodol neu amharu ar lif arferol y ddeialog ar y safle hwn.

Mae eich defnydd o’r Safle hwn yn caniatáu i’ch porwr wneud un copi o’r deunyddiau a arddangosir ar gyfer dibenion creu cache yn unig. Trwydded gyfyngedig, nad yw’n unigryw i chi i’w defnyddio gennych chi at eich defnydd personol yn unig y mae gweld, argraffu, neu lawr lwytho unrhyw gynnwys, graffig, ffurflen neu ddogfen o’r Safle yn ei rhoi ac nid yw ar gyfer ailgyhoeddi, dosbarthu, aseinio, is-drwyddedu, gwerthu, paratoi gweithiau sy’n deillio ohono, nag unrhyw ddefnydd arall. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o unrhyw gynnwys, ffurflen neu ddogfen ar unrhyw ffurf na’u hymgorffori mewn unrhyw system adfer gwybodaeth, boed yn electronig neu beirianyddol, heblaw at eich defnydd personol chi yn unig, ac ni cheir eu defnyddio i’w hail-werthu na’u hail ddosbarthu.

Gwaherddir defnyddio offer cloddio am ddata, robotiaid neu offer casglu a thynnu data o’r fath yn bendant.

We reserve the right to amend the price of registrations or to withdraw them from sale without prior notice.