Trefnu trip i blentyn anabl :Cross Stitch – Rhieni

Nid yw bob amser yn hawdd trefnu trip ar gyfer plentyn anabl, oherwydd nid oes gan rai lleoliadau gyfleusterau addas neu nid ydynt yn deall y sefyllfa’n iawn. Cyn i chi adael, efallai yr hoffech holi ynghylch y canlynol er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y diwrnod yn mynd rhagddo’n ddidrafferth.
Mae rhai lleoliadau ac atyniadau yn well na’i gilydd am gynnig cyfleusterau a chymorth – felly mae’n siŵr y byddai’n syniad da i chi ffonio ymlaen llaw i drafod y pethau a allai helpu’ch plentyn a chithau ar y diwrnod. Gallai hyn gynnwys trefnu bwrdd yn y caffi/bwyty, cadw seddi mewn digwyddiad arbennig neu drefnu tywysydd.
Gallech hefyd wneud ymchwil ar-lein – bydd gan y mwyafrif o atyniadau eu gwefan eu hunain.
Mae nifer o leoliadau yn cynnig mynediad am ddim i blant ag anghenion arbennig a’u gofalwyr, felly cofiwch fynd â rhywbeth gyda chi i brofi eich bod yn ofalwr. Gallai hyn gynnwys eich llyfr neu’ch llythyr lwfans gofalwr neu Lwfans Byw i’r Anabl. Efallai y byddai’n werth i chi ffonio i archebu tocynnau ymlaen llaw er mwyn arbed amser ar ôl cyrraedd.
Mae rhai lleoliadau yn cynnig llefydd parcio ar gyfer teuluoedd sydd â phlentyn ag anghenion arbennig. Mae’n bosib mai hyn a hyn o lefydd sydd ar gael a bod angen eu harchebu ymlaen llaw, felly ceisiwch ffonio ymlaen llaw fel y gellir dyrannu lle parcio ar eich cyfer. Neu, mae’r Cynllun Parcio Bathodyn Glas yn darparu amrywiaeth o gonsesiynau parcio i bobl a chanddynt broblemau symudedd difrifol ac sy’n ei chael yn anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Os nad oes gennych gar, gellir gwneud trefniadau arbennig ar gyfer teithwyr anabl neu deithwyr sydd â phroblemau symudedd pan fyddant yn teithio ar drên, ar fws moethus neu ar fws cyffredin. Hefyd, mae gostyngiadau ar gael i deithwyr anabl. Mae gan rai ardaloedd wasanaethau trafnidiaeth gymunedol hefyd ar gyfer pobl sy’n cael trafferth defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Os oes angen lifft arnoch i fynd o lawr i lawr, gwnewch yn siŵr bod lifftiau ar gael yn hwylus i chi. Nid oes gan rai lleoliadau lifftiau arbennig ar gyfer cwsmeriaid, ond efallai y byddant yn cynnig i chi ddefnyddio’r lifftiau preifat. Felly, fel gyda thoiledau, mae’n ddefnyddiol gwybod beth yw’r cyfleusterau.
