Treth ar gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau

Fel arfer mae treth ar gyfradd o 20 y cant wedi’i didynnu o log ar gynilion cyn i chi ei gael. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch (40 y cant), bydd arnoch chi dreth ar y gwahaniaeth. Os ydych chi ar incwm isel, mae’n bosib y gallwch chi hawlio treth yn ôl.

Mae incwm o gynilion yn cael ei ychwanegu at eich incwm arall a’i drethu ar ôl rhoi cyfrif am eich lwfansau di-dreth – Lwfans Personol er enghraifft – fel a ganlyn:

  • mae incwm trethadwy o gynilion sy’n dod o fewn y gyfradd gychwynnol o £2,710 ar gyfer cynilion Treth Incwm yn cael ei drethu ar 10 y cant – ond dim ond os nad yw’r band cyfradd wedi cael ei ddefnyddio gan incwm arall oherwydd trethir incwm cynilion yn olaf
  • mae incwm trethadwy o gynilion (wedi’i gynnwys gydag unrhyw incwm arall) sy’n uwch na’r gyfradd gychwynnol o £2,710 ar gyfer band cynilion Treth Incwm, ond o fewn y band cyfradd sylfaenol o £34,370, yn cael ei drethu ar 20 y cant
  • mae incwm trethadwy o gynilion (wedi’i gynnwys gydag unrhyw incwm arall) sy’n uwch na’r band Treth Incwm o £34,370, ond o fewn y band cyfradd uwch o £150,000, yn cael ei drethu ar 40 y cant
  • mae incwm trethadwy o gynilion (wedi’i gynnwys gydag unrhyw incwm arall) sy’n uwch na’r band Treth Incwm o £150,000 yn cael ei drethu ar 50 y cant
  • os yw’n dod ar y naill ochr i fand treth, bydd y symiau perthnasol yn cael eu trethu yn ôl y cyfraddau ar gyfer pob band treth

Mae’r holl ffigurau uchod yn berthnasol i flwyddyn dreth 2012-2013.

Rydych yn talu treth ar eich llog yn y flwyddyn dreth pan gaiff y llog ei dalu i chi (neu ei gredydu i’ch cyfrif) hyd yn oed os oes rhan ohono wedi cronni dros flynyddoedd treth blaenorol.

Fel arfer, mae treth ar gyfradd o 20 y cant wedi’i didynnu o incwm o gynilion cyn i chi ei gael. Cadarnheir hyn gan y cofnod ‘llog net’ ar eich datganiad banc neu gymdeithas adeiladu.

Os yw’r cofnod yn dangos ‘llog gros’ yn unig – a dim ‘llog net’ – does dim treth wedi’i didynnu. Fel arfer rhaid i chi gofrestru i gael llog gros – i gael mwy o wybodaeth am hyn darllenwch ‘Os nad ydych yn talu treth’ yn yr adran isod.

Os yw lefel eich incwm yn golygu nad oes angen i chi dalu treth, gallwch lenwi ffurflen ‘R85 – Cael llog heb i dreth gael ei didynnu’. Os oes treth wedi’i didynnu o’ch llog yn barod, byddwch yn gallu ei hawlio’n ôl.

Os yw’r gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion (10 y cant) yn berthnasol i chi

Caiff cyfradd y Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu ar gynilion ei chyfrifo ar ôl i unrhyw incwm nad yw’n dod o’ch cynilion gael ei ystyried. Felly os yw’ch incwm nad yw’n dod o’ch cynilion yn llai na’r gyfradd gychwynnol ar gyfer y terfyn cynilion o £2,710 – neu os mai cynilion a buddsoddiadau yw’ch unig ffynhonell incwm – caiff eich incwm o’ch cynilion ei drethu ar y gyfradd gychwynnol o 10 y cant hyd at y terfyn.

Fodd bynnag, byddwch wedi talu 20 y cant o dreth ar eich llog ac felly byddwch yn gallu hawlio rhywfaint o’r dreth yn ôl.

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant), does dim rhaid i chi wneud dim byd. Does dim treth ychwanegol yn ddyledus.

Os ydych chi’n drethdalwr cyfradd uwch (40 y cant), rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM faint o log rydych chi wedi’i gael fel y gallant gasglu’r dreth ychwanegol sy’n ddyledus:

  • os byddwch fel arfer yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu bydd angen i chi ddatgan eich incwm cynilion ar eich ffurflen
  • os llenwoch chi ffurflen dreth yn ystod blwyddyn dreth 2012-13, ond eich bod bellach yn tallu eich treth cyfradd uwch drwy PAYE (Talu Wrth Ennill), cesglir y dreth ychwanegol sy’n ddyledus ar eich cynilion drwy PAYE hefyd yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd gan Gyllid a Thollau EM
  • os nad ydych chi’n llenwi ffurflenni treth mwyach, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM anfon ffurflen P810 Adolygiad Treth atoch er mwyn iddynt wirio faint o gynilion ac incwm arall heb dreth sydd gennych, ac yna’n addasu eich cod treth (neu’n gofyn i chi lenwi ffurflen dreth os bydd angen)
  • os nad ydych chi’n llenwi ffurflen dreth fel arfer ond eich bod yn ddiweddar wedi symud i’r band Treth Incwm cyfradd uwch, rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM faint o incwm cynilion rydych chi’n ei dderbyn drwy lenwi ffurflen Adolygu Treth P810, sydd ar gael ar gais gan Gyllid a Thollau EM – byddant naill ai’n gofyn i chi lenwi ffurflen, neu os ydych chi’n gyflogedig ac yn derbyn pensiwn, gallant drefnu casglu’r dreth ychwanegol drwy PAYE

Yna, efallai y byddant yn anfon ffurflen P810 atoch i wirio faint o gynilion sydd gennych.

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd ychwanegol

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd ychwanegol (50 y cant) bydd angen i chi ddatgan eich cynilion ar eich ffurflen dreth er mwyn i chi dalu’r dreth ychwanegol sy’n ddyledus.

Ym mha fand Treth Incwm bynnag yr ydych, os nad ydych fel arfer yn llenwi ffurflen dreth a bod newid sylweddol yn eich cynilion neu incwm arall, rhaid i chi gysylltu’n syth â Chyllid a Thollau EM er mwyn iddynt allu gweld a oes angen i chi dalu mwy neu lai o dreth. Drwy gysylltu â hwy yn gynnar:

  • gallwch atal y dreth sy’n ddyledus rhag cronni os bydd eich incwm yn mynd â chi i fand uwch
  • gallwch osgoi talu gormod o dreth os yw eich incwm wedi disgyn o dan derfyniadau penodol

Os byddwch yn llenwi ffurflen dreth bydd angen i chi ddangos (ar gyfer eich holl gynilion mewn banciau a chymdeithasau adeiladu):

  • faint o log a gawsoch ar ôl didynnu treth – y ‘swm net’
  • faint o dreth a ddidynnwyd ‘yn y ffynhonnell’ – cyn i chi gael y taliad
  • swm y ddau uchod – y ‘swm gros’ (cyn treth)

Mae tri blwch gwahanol ar gyfer yr wybodaeth hon.

Mae blwch arall i’w lenwi hefyd ar gyfer unrhyw log a gawsoch heb fod treth wedi’i didynnu.

Efallai y bydd eich banc/cymdeithas adeiladu yn anfon ‘Tystysgrif o’r Dreth a Ddidynnwyd’ atoch neu ddatganiad sy’n cynnwys yr wybodaeth hon ar ddiwedd pob blwyddyn dreth (Ebrill 5). Os bydd angen hon arnoch a chithau heb ei chael, cofiwch ofyn. Yn aml hefyd gallwch gael y ffigurau y byddwch eu hangen o’ch paslyfr neu o ddatganiadau eich cyfrif.

Os oes gennych gyfrif ar y cyd gyda’ch gŵr, eich gwraig neu’ch partner sifil, dylech ddatgan hanner yr incwm fel eich incwm chi. Dylai’r ail hanner gyfrif tuag at eu hincwm hwy.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs