Treth cerbyd yn dod i ben pan fyddwch chi dramor :Cross Stitch – Moduro

Os byddwch chi dramor pan fydd treth eich cerbyd yn dod i ben, mae modd i chi drethu eich cerbyd ar-lein, dros y ffôn, neu ofyn i rywun drethu’r cerbyd ar eich rhan. Gallwch hefyd drethu eich cerbyd cyn mynd dramor.
Newid enw a/neu gyfeiriad
Ysgrifennwch y manylion newydd neu unrhyw gywiriadau yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru.
Os nad oes gennych Dystysgrif Cofrestru
Os mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd, gallwch lenwi ffurflen V62W ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)’ a rhaid anfon £25 gyda’r ffurflen (y ffi am Dystysgrif Cofrestru ddyblyg). Dylech eu cynnwys gyda’ch cais am dreth. Dim ond yn eich swyddfa DVLA leol agosaf y gallwch wneud cais.
Fe allwch lwytho’r ffurflen, neu nôl y ffurflen V62W o unrhyw un o ganghennau Swyddfa’r Post® neu swyddfa DVLA leol.
Os byddwch yn mynd â’ch cerbyd dramor, mae’n rhaid parhau i’w drethu. Pan fyddwch yn dychwelyd o dramor, rhaid i chi fod â disg treth ddilys er mwyn gallu gyrru’ch cerbyd adref neu fe fyddwch yn cyflawni trosedd. Does dim consesiynau.
Os yw’ch cerbyd yn cael ei gadw oddi ar y ffordd ym Mhrydain Fawr pan rydych dramor ac nad ydych yn adnewyddu’ch treth, rhaid i chi roi gwybod i DVLA drwy wneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol). Cewch wneud hyn hyd at ddau fis cyn i’r ddisg treth gyfredol neu’r datganiad HOS ddod i ben.
