Trethu eich cerbyd ar-lein neu dros y ffôn :Cross Stitch – Moduro
Trethu eich cerbyd ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein neu dros y ffôn os:
- mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd ac y caiff eich enw, cyfeiriad ac unrhyw newidiadau i’ch cerbyd eu diweddaru gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
- oes gennych ‘Cais am Drwydded Cerbyd/Datganiad Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol’ (ffurflen atgoffa V11) neu Dystysgrif Cofrestru (V5C)
- oes gennych yswiriant dilys sy’n cynnwys defnyddio’r cerbyd ar y diwrnod y bydd y ddisg treth yn dod i rym
- oes gennych MOT dilys, prawf Cerbyd Nwyddau neu Gerbyd Gwasanaeth i Deithwyr (PSV) (os oes ei angen) sy’n ddilys pan ddaw’r ddisg treth i rym
- oes gennych gerdyn debyd neu gerdyn credyd – codir tâl gwasanaeth o £2.50 os byddwch yn defnyddio cerdyn credyd, ni chodir tâl am ddefnyddio cerdyn debyd
- oes gennych dystysgrif eithrio ddilys
Gallwch adnewyddu eich treth unrhyw bryd ar ôl pumed diwrnod y mis.
Trethu eich cerbyd gyda thystysgrif eithrio
Os ydych yn trethu eich cerbyd ar-lein gyda thystysgrif eithrio, bydd angen iddi fod un o’r canlynol:
- Tystysgrif Hawl i Lwfans Byw i’r Anabl
- Tystysgrif Hawl flynyddol
- Tystysgrif DLA404
- Tystysgrif MHS330
- Tystysgrif WPA0442
Hefyd bydd arnoch angen cyfenw, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol deiliad y dystysgrif eithrio ynghyd â rhif cyfresol y dystysgrif. Ni fydd angen cerdyn credyd neu gerdyn debyd os ydych yn gwneud cais i drethu’ch cerbyd yn y dosbarth treth anabl.
Ni allwch drethu yn y dosbarth treth anabl am y tro gyntaf ar-lein neu dros y ffôn. Dim ond yn un o ganghennau Swyddfa’r Post® sy’n rhoi disgiau treth y gellir gwneud hyn.
Caiff yswiriant, MOT a’r hawl i gael eich eithrio oherwydd anabledd eu gwirio yn electronig yn ystod y broses o wneud cais. Dylech dderbyn eich disg treth newydd yn y post o fewn pum niwrnod gwaith.
Bydd angen i chi gael yswiriant dilys ar y diwrnod y byddwch am i’r ddisg treth ddod i rym (neu’r dyddiad y byddwch yn gwneud cais amdano, os bydd hyn yn hwyrach). Caiff hyn ei wirio ar y Gronfa Ddata Yswiriant. Os ydych yn adnewyddu eich treth cerbyd a’ch yswiriant ar yr un pryd neu os ydych wedi newid eich cwmni yswiriant yn ddiweddar, mae’n bosib y bydd problemau wrth wirio’r yswiriant wrth aros i’r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau gael ei diweddaru.
Cyn i chi drethu eich cerbyd, gallwch weld ar-lein os yw’r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau wedi’i diweddaru. Dim ond i’r diwrnod y byddwch yn gwirio hyn y bydd y canlyniad yn berthnasol.
Sicrhewch fod y canlynol gennych:
- y cyfeirnod 16 digid sydd wedi’i nodi yn y blwch gwyrdd ar flaen eich ffurflen atgoffa V11 neu
- y cyfeirnod 11 digid a ddangosir ar du blaen eich Tystysgrif Cofrestru a rhif cofrestru’ch cerbyd
- eich Tystysgrif Hawl i Lwfans Byw i’r Anabl, Tystysgrif Hawl flynyddol, Tystysgrif DLA404, Tystysgrif MHS330, neu Dystysgrif os oes gennych yr hawl i gael eich eithrio oherwydd anabledd
- eich cerdyn debyd neu gerdyn credyd (bydd tâl gwasanaeth o £2.50 yn berthnasol wrth ddefnyddio cerdyn credyd)
Gwnewch gais dros y ffôn ar 0300 123 4321. Ffôn testun/minicom 0300 790 6201.
Os nad ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi drethu’ch cerbyd yn swyddfa DVLA leol neu un o ganghennau Swyddfa’r Post® sy’n rhoi disgiau treth. Dilynwch y ddolen isod am ragor o wybodaeth ynghylch trethu.
