Trosglwyddo rhif cofrestru a sut i wneud cais :Cross Stitch – Moduro

Fel ceidwad cofrestredig eich cerbyd, gallwch wneud cais i drosglwyddo rhif cofrestru eich cerbyd i gerbyd arall yn eich enw, i gerbyd rydych yn ei brynu, neu i gerbyd rhywun arall.
Cewch drosglwyddo eich rhif cofrestru cerbyd:
- o’ch cerbyd i un arall yn eich enw
- i gerbyd rydych yn ei brynu
- i gerbyd rhywun arall
Ni chewch drosglwyddo rhif cofrestru cerbyd:
- sy’n dechrau gyda ‘Q’ neu ‘NIQ’ ar gyfer cerbydau cofrestredig yng Ngogledd Iwerddon
- os bydd yn gwneud i’r cerbyd y caiff ei drosglwyddo iddo ymddangos yn iau
Er mwyn trosglwyddo’r rhif cofrestru, mae’n rhaid i’r ddau gerbyd:
- fod wedi’u cofrestru gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
- fod ar gael ar gyfer archwiliad
- fod yn fath sy’n gorfod cael tystysgrif prawf MOT neu gerbyd nwyddau trwm (HGV)
- fod wedi’i drethu ar hyn o bryd
Fodd bynnag, os nad yw’r cerbyd a chanddo’r rhif cofrestru ar hyn o bryd wedi’i drethu, gallwch wneud cais i drosglwyddo’r rhif o hyd ar yr amod:
- nad oes saib rhwng y dyddiad y bydd y ddisg treth yn dirwyn i ben a dechrau’r HOS
- nad yw’r ddisg treth wedi dod i ben ers dros 12 mis cyn y dyddiad y gwnaethoch y cais
Gallwch drosglwyddo rhif cofrestru Gogledd Iwerddon rhwng cerbydau sydd wedi’u cofrestru gyda DVLA, Abertawe a’r Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA), Gogledd Iwerddon. Mae’n rhaid i’r ddau gerbyd fodloni’r amodau ar gyfer trosglwyddo rhif cofrestru. Cysylltwch â DVA i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd gofyn i chi:
- lenwi ffurflen V317W ‘cais i drosglwyddo neu gadw rhif cofrestru cerbyd’ – os yw’r rhif yn cael ei drosglwyddo i gerbyd rhywun arall, yna mae’n rhaid i’r ddau geidwad cofrestredig lenwi’r ffurflen gais
- amgáu’r ffi trosglwyddo, sef £80
Dylid amgáu’r canlynol ar gyfer y ddau gerbyd hefyd:
- y dystysgrif cofrestru neu’r atodiad ceidwad newydd gyda ffurflen V62W ‘cais am dystysgrif cofrestru cerbyd V5C’ wedi’i llenwi
- tystysgrif prawf – bydd angen hon ar gyfer ceir a beiciau modur dros dair mlwydd oed, ac ar gyfer cerbydau nwyddau trwm dros flwydd oed
Os bydd yr atodiad ceidwad newydd wedi’i stampio gan swyddfa DVLA leol, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62W ‘cais am dystysgrif cofrestru cerbyd V5CW’ cyn y gallwch wneud cais.
Os oes angen trethu un o’r cerbydau, dylech amgáu:
- ffurflen V10W ‘cais am ddisg treth’ wedi’i llenwi neu’r nodyn atgoffa V11
- tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant dilys
- tâl am y dreth cerbyd
Anfonwch ffurflen gais wedi’i llenwi i’ch swyddfa DVLA leol agosaf.
Cofrestru cerbyd neu gerbydau newydd sbon
Os ydych yn cofrestru cerbyd eich hun, bydd angen i chi ddarparu dogfennau i gadarnhau pwy ydych chi gyda’ch cais. Os ydych yn prynu cerbyd newydd sbon, bydd angen i chi ddangos dogfennau yn profi pwy ydych i’r deliwr.
Mae’n bosibl y bydd angen i’ch swyddfa DVLA leol archwilio’r ddau gerbyd a bydd yn cysylltu â chi i drefnu hyn. Oni fydd angen iddynt gynnal archwiliad, byddant yn cymeradwyo eich cais o fewn dwy wythnos.
Ar ôl cymeradwyo eich cais, bydd eich swyddfa DVLA leol yn anfon y canlynol atoch:
- llythyr cadarnhad yn nodi’r rhif cofrestru newydd
- disgiau treth newydd ar gyfer y ddau gerbyd yn nodi’r rhifau cofrestru newydd
- llythyr awdurdodi (V948) er mwyn gwneud eich plât rhif
- tystysgrif prawf MOT newydd ar gyfer ceir a beiciau modur dros dair oed, ac ar gyfer cerbydau nwyddau trwm dros flwydd oed
Nodwch os gwelwch yn dda, na fydd y dystysgrif prawf MOT yn cael ei hargraffu mewn gwyrdd bellach – bydd yn cael ei hargraffu mewn testun du ar gefndir gwyn yn lle hynny.
Ar ôl anfon eich cais, dylech adael dwy wythnos o leiaf cyn cysylltu â gwasanaeth ymholiadau cwsmeriaid DVLA os na fyddwch wedi derbyn y dogfennau hyn.
Bydd DVLA Abertawe yn anfon tystysgrifau cofrestru newydd ar gyfer y ddau gerbyd yn nodi’r rhifau cofrestru newydd. Dylai’r rhain gyrraedd o fewn pedair wythnos i gael y llythyr cadarnhad. Gall gymryd hyd at chwe wythnos os bu i chi ddefnyddio ffurflen gais V62W er mwyn cefnogi eich cais.
Rhaid i chi beidio â gwerthu neu gael gwared ar eich cerbyd tan i chi gael tystysgrif cofrestru newydd, oherwydd bydd gan y ceidwad newydd hawl i gadw’r rhif cofrestru os dymunan nhw.
Fel y ceidwad cofrestredig chi sy’n gyfrifol am roi gwybod i’ch darparwr yswiriant ynghylch eich rhif cofrestru newydd.
