Tyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun :Cross Stitch – Yr amgylchedd a byw'n wyrdd

Gall tyfu eich bwyd eich hun fod yn ymarfer corff da a gall arbed arian i chi. Hefyd gall ddarparu cyflenwad iach o ffrwythau a llysiau ffres a thymhorol i chi. Mae’n hawdd dechrau arni a gallwch dyfu planhigion mewn llawer o lefydd, hyd yn oed os nad oes gennych ardd.
Mae mwy o bobl yn dangos diddordeb mewn tyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain, am nifer o wahanol resymau:
- gallai arbed arian i chi ar eitemau drud fel dail salad
- mae garddio’n ymarfer corff rhad ac yn ffordd wych o losgi calorïau a chael awyr iach
- mae’n helpu plant i ddeall o ble mae bwyd yn dod, a gallai ennyn eu diddordeb mewn bwyta ffrwythau a llysiau ffres
- gall tyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun eich helpu i gael eich pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd
- byddwch yn dod yn fwy ymwybodol o gynnyrch tymhorol felly efallai y bydd yn haws i chi ddewis bwyd tymhorol pan fyddwch yn mynd i siopa (mae’n debygol y defnyddir llai o ynni wrth gynhyrchu bwyd tymhorol)
- gall garddio fod yn weithgaredd cymdeithasol sy’n eich galluogi i gymryd rhan yn eich cymuned leol
- gall helpu i leihau straen a gwneud i chi deimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth
Efallai mai dim ond balconi bychan sydd gennych, neu le ar sil y ffenestr, ond ni ddylai hyn eich atal rhag cymryd eich camau cyntaf at arddio. Gallwch dyfu perlysiau dan do, neu ddail salad y tu allan mewn pot.
Os oes gennych ardd ond dim lle i lain arbennig ar gyfer bwyd, gallwch geisio plannu ffrwythau neu lysiau ymhlith eich blodau.
Os oes gennych gymydog sydd â gardd fawr gallech holi a fyddai modd i chi drin rhan o’r ddaear, a chynnig rhywfaint o’ch cynnyrch iddo o bosib am gael gwneud hyn.
Os nad oes gennych le gartref, neu os ydych yn awyddus i dyfu mwy o gnydau, gallwch chwilio am gynlluniau garddio cymunedol yn eich ardal leol, ystyried rhentu rhandir neu gallwch ddefnyddio gwefan Landshare.
Cynlluniau garddio cymunedol
Mae cynlluniau garddio cymunedol ar gael mewn amryw o ardaloedd yn y wlad. Mae grwpiau o bobl wedi dod ynghyd i adfer tir i dyfu bwyd a phlanhigion fel rhan o brosiect cymunedol yn y gymdogaeth.
Mae’r prosiectau’n darparu lle i bobl fwynhau garddio a dysgu amdano, rhannu offer, hadau a chynnyrch, a chwrdd â phobl eraill.
Ewch i wefan y Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol i weld rhestr o ffermydd a gerddi cymunedol yn y DU.
Yn Llundain, mae’r rhaglen Capital Growth wrthi’n sicrhau mwy o le i’r cyhoedd dyfu bwyd drwy gynlluniau gwirfoddol a chymunedol. Ewch i wefan Asiantaeth Datblygu Llundain i gael mwy o wybodaeth.
Landshare
Os na allwch ddod o hyd i rywle i dyfu cynnyrch, neu os oes gennych dir sbâr yr hoffech ei rannu, gallwch ddefnyddio gwefan Landshare. Bydd Landshare yn dod o hyd i dir sbâr i bobl sydd am dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain.
