Tynnu carafán neu ôl-gerbyd :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ffit i dynnu cerbyd drwy ddilyn cyngor yr Asiantaeth Priffyrdd. Yma cewch wybod sut mae paratoi eich cerbyd, gyrru’n ddiogel a gwneud yn siŵr bod gennych yr yswiriant a’r drwydded yrru briodol.
Mae DVD ‘Fit to Tow’ a chylchgrawn ‘Hitched’ yr Asiantaeth Priffyrdd yn tynnu sylw at y risgiau diogelwch sydd ynghlwm wrth dynnu carafán neu ôl-gerbyd. Mae’r DVD yn dangos sut mae:
- cysylltu eich carafán neu’ch ôl-gerbyd
- cynnal a chadw’r garafán neu’r ôl-gerbyd pan nad ydych yn eu defnyddio
- cynnal profion diogelwch cyflym
Mae’r cylchgrawn Hitched yn cynnwys gwybodaeth fanwl am bob agwedd ar dynnu cerbyd.
Mae’r wybodaeth allweddol wedi’i chynnwys yma ar Cross & Stitch, ond gallwch hefyd:
- archebu’r DVD Fit to Tow, copi caled o restr wirio Fit to Tow neu gopi o Hitched, sy’n cynnwys atlas ffyrdd y DU am ddim. Gallwch wneud hyn drwy ffonio llinell wybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd ar 0300 123 5000, neu anfon e-bost at
- [email protected].
llwytho rhestr wirio Fit to Tow neu’r cylchgrawn Hitched drwy ddilyn y dolenni isod
Os gwnaethoch basio eich prawf gyrru ar ôl 1996 a bod gennych drwydded Categori B gyffredin, gallwch yrru’r canlynol:
- cerbyd ag uchafswm pwysau gros o 3.5 tunnell, sy’n tynnu ôl-gerbyd ag uchafswm pwysau gros o 750 cilogram (hyd at 4,250 cilogram i gyd)
- ôl-gerbyd ag uchafswm pwysau gros o 750 cilogram, cyn belled nad yw hyn yn fwy na phwysau heb lwyth y cerbyd sy’n tynnu, ac nad yw pwysau’r ddau gyda’i gilydd yn fwy na 3,500 cilogram.
Ar gyfer unrhyw gerbyd trymach, bydd angen i chi sefyll prawf gyrru Categori B + E.
Sylwer bod y rheolau’n wahanol i yrwyr a basiodd eu prawf cyn 1997 ac sydd heb gael eu gwahardd rhag gyrru ers hynny. Gallwch weld yr holl fanylion drwy ddilyn y ddolen isod.
Os bydd eich cerbyd yn torri i lawr, a wnaiff eich sefydliad moduro adfer eich cerbyd chi a’r cerbyd rydych chi’n ei dynnu? Nid yw hyn fel arfer yn wir am yswiriant ôl-gerbyd cyffredin, felly efallai y bydd angen yswiriant arbenigol arnoch. Heb yr yswiriant hwn, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser ac yn costio mwy i chi dynnu eich ôl-gerbyd neu’ch carafán oddi ar y ffordd, felly cofiwch holi cyn dechrau ar eich siwrnai.
Cynnal profion diogelwch syml
P’un ai a ydych yn tynnu carafán ynteu ôl-gerbyd, gwnewch yn siŵr ei fod wedi cael ei wasanaethu’n briodol a’i fod yn ffit i fod ar y ffordd, yn enwedig os caiff ei adael yn segur y rhan fwyaf o’r flwyddyn.
Dylech bob amser ddilyn canllawiau’r gweithgynhyrchwr wrth gysylltu eich carafán neu’ch ôl-gerbyd.
Cyn cychwyn ar eich siwrnai, dylech wneud yn siŵr:
- bod y goleuadau’n gweithio’n iawn ac nad ydynt wedi’u difrodi
- bod y gwasgedd yn y teiars yn iawn a bod pob teiar mewn cyflwr da (gallant ddirywio’n gyflym os na chânt eu cynnal a’u cadw’n briodol)
- bod y cysylltydd yn ddiogel, yn wastad ac ar yr uchder iawn
Os oes gan eich carafán gysylltydd â phadiau ffrithiant mewnol, gwnewch yn siŵr fod y bêl dynnu yn lân, yn sych ac nad oes saim arni.
Yn olaf, dylech bob amser wneud yn siŵr eich bod wedi cysylltu’r ôl-gerbyd neu’r garafán yn ddiogel i’r cerbyd, a bod y pwysau wedi’i ddosbarthu’n unol â chyngor y gweithgynhyrchwr.
Gosod drychau tynnu os bydd angen
Os yw eich carafán neu’ch ôl-gerbyd yn lletach na rhan fwyaf cul cefn y cerbyd sy’n tynnu, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi osod drychau tynnu. Rhaid i’r drychau hyn gynnwys y marc E (mae drychau â’r marc hwn yn bodloni gofynion yr Undeb Ewropeaidd).
Os byddwch yn tynnu cerbyd heb ddrychau tynnu neu gan ddefnyddio drychau anghyfreithlon (heb y marc E) gallwch:
- gael eich erlyn gan yr heddlu
- cael tri phwynt cosb ar eich trwydded
- cael dirwy o hyd at £1,000
Cario pecyn argyfwng
Mae’n syniad da i chi gario’r canlynol rhag ofn y gwnaiff eich cerbyd dorri i lawr:
- ffôn symudol
- triongl rhybuddio neu olau sy’n fflachio
- gwifrau cyswllt (jump leads)
- tortsh
- siaced gynnes
- manylion aelodaeth eich gwasanaeth torri i lawr ac adfer
Gyrru’n arbennig o ofalus
Cofiwch y bydd tynnu ôl-gerbyd llawn, carafán neu gerbyd ceffylau yn effeithio ar berfformiad eich cerbyd, er enghraifft:
- byddwch yn arafach wrth ddechrau symud
- bydd yn cymryd mwy o amser i arafu a stopio
- bydd yn anodd gyrru o amgylch corneli siarp
Mae’n bosib y bydd bacio yn arbennig o anodd, felly byddai’n syniad da i chi ymarfer cyn cychwyn ar eich siwrnai. Dylech bob amser wneud y canlynol:
- gwneud yn siŵr bod yr ardal y tu ôl i’ch cerbyd yn glir cyn dechrau
- bod yn ymwybodol iawn o blant a cherddwyr eraill
- gofyn i rywun eich gwylio a’ch cynghori os yw’n bosib
Gwybod beth yw’r cyfyngiadau cyflymder
Dylech bob amser gadw at y cyfyngiadau cyflymder canlynol:
- 30 milltir yr awr ar bob ffordd sy’n cynnwys goleuadau stryd (oni bai fod arwydd yn dangos yn wahanol)
- 50 milltir yr awr ar ffyrdd unffrwd (oni bai fod arwydd yn dangos yn wahanol)
- 60 milltir yr awr ar ffyrdd deuol ac ar draffyrdd
Ar y draffordd
Cofiwch na chewch wneud y canlynol:
- gyrru’n gyflymach na 60 milltir yr awr
- defnyddio’r lôn ochr dde (cyflym) ar draffordd sy’n cynnwys tair lôn neu fwy
Parcio’n ofalus
Mae parcio’n ofalus yr un mor bwysig â gyrru’n ofalus, er enghraifft:
- peidiwch â gadael ôl-gerbyd wedi’i ddatgysylltu ar ffordd gyhoeddus
- os byddwch yn parcio ôl-gerbyd ar ffordd gyhoeddus yn ystod y nos – boed wedi’i gysylltu ai peidio – rhaid gadael y goleuadau ymlaen
- peidiwch â pharcio eich ôl-gerbyd ar laswellt hir gan y gallai’r lleithder ei ddifrodi
- ar arwyneb gwastad, dylech barcio heb godi’r brêc llaw er mwyn atal y drymiau brêc rhag cloi, os yw’n ddiogel i chi wneud hynny
