Y cynllun gwell beiciwr: hyfforddiant personol ar gyfer beiciau modur :Cross Stitch – Moduro

Gall y cynllun gwell beiciwr eich helpu i gael mwy o bleser wrth yrru eich beic modur. Fe gewch chi hyfforddwr personol a fydd yn eich helpu i gael mwy o fwynhad wrth yrru’ch beic modur. Hefyd, bydd y rhan fwyaf o froceriaid yswiriant beiciau modur yn rhoi disgownt ar yswiriant i chi. Yma cewch wybod sut mae dod o hyd i hyfforddwr a mynd ati i ddilyn y cynllun.

Bydd y cynllun gwell beiciwr:
- yn eich helpu i gael mwy o fudd o yrru’ch beic modur
- yn eich helpu i gael mwy o fwynhad wrth yrru’ch beic modur
- yn rhoi cyfle i chi ddangos eich sgiliau – ac i fod yn gymwys i gael disgownt ar yswiriant o ganlyniad i ddilyn y cwrs hwnnw
Does dim rhaid i chi sefyll prawf.
Ar gyfer pwy mae’r cynllun gwell beiciwr
Cynllun ar gyfer beicwyr modur â thrwydded lawn ac sydd wedi pasio eu prawf yw’r cynllun gwell beiciwr. Mae’n ddelfrydol ar eich cyfer chi:
- os ydych newydd basio’ch prawf
- os ydych yn ailddechrau gyrru beic modur ar ôl rhoi’r gorau iddi am gyfnod
- os ydych am yrru beic modur sy’n fwy pwerus na’r un sydd gennych ar hyn o bryd
- os ydych am wneud yn siŵr eich bod yn gyrru eich beic modur yn iawn
- os ydych am gael mwy o fwynhad wrth yrru eich beic
- os ydych yn mwynhau gyrru mewn grwpiau
Beth sy’n rhan o’r cynllun gwell beiciwr
Ar ôl i chi ddod o hyd i hyfforddwr ar gyfer y cynllun gwell beiciwr:
- fe gewch chi asesiad gyrru i gael gwybod beth rydych yn gallu ei wneud yn dda
- fe gewch chi ‘dystysgrif cymhwysedd DSA’ os nad oes arnoch angen help o gwbl gan eich hyfforddwr
- efallai y cewch chi hyfforddiant pwrpasol i’ch helpu i fod yn un o’r beicwyr gorau ac i gael mwy o bleser wrth yrru
Bydd eich hyfforddwr yn yrrwr medrus dros ben ac yn awyddus i rannu ei wybodaeth a’i arbenigedd gyda chi
Bydd angen i chi ddod o hyd i hyfforddwr a dewis un er mwyn dechrau ar y cynllun. Bydd un o’r arbenigwyr oddi ar gofrestr yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ar gyfer hyfforddwyr beiciau modur sydd wedi pasio’u prawf yn dod gyda’r hyfforddwr.
Hyfforddwyr y cynllun gwell beiciwr
Mae’r hyfforddwyr arbenigol sydd ar y rhestr:
- i gyd yn hyfforddwyr hynod fedrus
- wedi profi bod y sgiliau ganddynt i roi hyfforddiant o safon i chi
- yn cael eu gwirio’n rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cynnal safon uchel
- yn awyddus i rannu eu harbenigedd gyda chi er mwyn i chi gael mwy o bleser wrth yrru eich beic
Faint mae’r cynllun gwell beiciwr yn ei gostio
Mae cost y cynllun yn amrywio o hyfforddwr i hyfforddwr ac o yrrwr i yrrwr, gan ddibynnu ar eu hanghenion.
Os na fydd angen hyfforddiant arnoch chi, daw’r broses i ben ar ôl yr asesiad – a byddwch wedyn yn gymwys i gael disgownt ar eich yswiriant
Bydd asesiad y cynllun gwell beiciwr yn canfod:
- beth ydych chi’n dda am ei wneud
- sut gall eich hyfforddwr eich helpu i gael mwy o bleser wrth yrru
Beth sy’n digwydd yn ystod asesiad y cynllun gwell beiciwr
Byddwch chi’n gyrru beic modur a’r hyfforddwr yn eich dilyn. Byddwch yn gyrru mewn gwahanol amodau ffordd a thraffig er mwyn i chi allu dangos eich sgiliau.
Bydd yr ymarfer hwn yn para digon i’ch hyfforddwr wneud asesiad cywir o’ch anghenion – ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, bydd yn para rhwng awr a dwy awr.
Os nad oes arnoch angen hyfforddiant o gwbl
Os na fydd angen hyfforddiant o gwbl arnoch, daw’r broses i ben ar ôl hynny.
Fe gewch chi ‘dystysgrif cymhwysedd DSA’ a byddwch yn gymwys i gael disgownt ar yswiriant.
Yna fe allech ystyried symud ymlaen i gwrs gyrru safon uwch. Gallwch gael gwybod mwy am gyrsiau gyrru safon uwch drwy glicio’r ddolen isod.
Fe gewch chi gyngor arbenigol a gweld sut mae gloywi eich sgiliau
Os bydd angen rhywfaint o hyfforddiant arnoch, fe gewch chi’ch cynllun personol eich hun ar gyfer gloywi eich sgiliau.
Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar yr elfennau a fydd yn eich helpu i gael mwy o bleser wrth yrru.
Beth mae’ch hyfforddiant yn ei gynnwys
Nid yw’r hyfforddiant yn dilyn yr agwedd bod un ateb yn addas i bawb – mae’r cyfan wedi’i deilwra’n arbennig ar eich cyfer chi.
Bydd eich hyfforddwr yn eich helpu gyda’r elfennau a fydd yn eich galluogi i gael mwy o bleser wrth yrru. Bydd yn rhoi cyngor arbenigol i chi ac yn dangos sut mae gwella eich sgiliau wrth wneud pethau fel y canlynol:
- troi corneli
- symud i mewn ac allan rhwng cerbydau
- darllen troeon
- newid safle ar y ffordd
- gyrru’n llyfn
Am faint mae’r hyfforddiant yn para
Fe gewch chi gymaint o hyfforddiant ag y bydd ei angen arnoch chi. Bydd strwythur eich hyfforddiant yn amrywio. Efallai y bydd rhai hyfforddwyr yn cynnig:
- cyrsiau drwy’r dydd
- sesiynau byrrach y gallwch eu dilyn dros sawl diwrnod er mwyn cyd-fynd â’ch anghenion
Mae’n syniad da holi pa opsiynau sydd ar gael wrth i chi ddewis eich hyfforddwr er mwyn gwneud yn siŵr y cewch chi’r fargen orau ar eich cyfer chi.
Beth sy’n digwydd ar ddiwedd eich hyfforddiant
Ar ôl i chi gael yr holl hyfforddiant y mae ei angen arnoch chi, fe gewch chi:
- adroddiad am eich sgiliau gyrru
- ‘tystysgrif cymhwysedd DSA’ – gallwch ddefnyddio’r dystysgrif hon i gael disgownt ar yswiriant
Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant beiciau modur yn rhoi disgownt i yrwyr a chanddynt ‘dystysgrif cymhwysedd DSA’
Ar ôl i chi gael ‘tystysgrif cymhwysedd DSA’:
- cysylltwch ag un o’r broceriaid yswiriant isod i gael dyfynbris llawn
- rhowch enw’r dystysgrif
Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant beiciau modur yn rhoi disgownt i yrwyr sydd â’r dystysgrif.
Broceriaid yswiriant sy’n noddi’r cynllun
Dyma’r broceriaid yswiriant sy’n noddi’r cynllun hwn:
- AA Insurance
- Bennett’s Insurance
- Bikesure
- Carole Nash
- Chandler Direct
- CIA insurance
- Devitt
- Direct Choice Insurance
- E Bike
- Express Insurance
- Hastings Direct
- Lexham
- MCE Insurance
- Motorcycle Direct
- Norwich Union Direct
- Premium Choice
- Rampdale
- Swinton Insurance
Yswirwyr sy’n cefnogi’r cynllun
Mae’r yswirwyr canlynol yn cefnogi’r cynllun:
- AXA
- Chaucer Insurance
- Equity Red Star
- Groupama
- Highway
- KGM
- Link/Zenith
- NIG
- Norwich Union
- Royal & Sun Alliance
Darparwyd gan the Driving Standards Agency
