Y ffurflen gais ar gyfer pasbortau cyfunol :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

I wneud cais am basbort cyfunol, mae’n rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen gais benodol o leiaf chwe wythnos cyn yr ydych yn bwriadu teithio. Yma, gallwch lwytho’r ffurflen gais a chael gwybod sut i’w llenwi.
Rhaid i chi lenwi’r ffurflen gais ar-lein cyn ei hargraffu – ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei derbyn os byddwch chi’n ei hargraffu ac ei llenwi â llaw
Mae ffurflen gais benodol ar gyfer pasbortau cyfunol. Gallwch gael copi mewn tair ffordd. Gallwch:
- lwytho’r ffurflen gais am Basbort Cyfunol oddi ar y we fel PDF
- ffonio Llinell Gymorth Pasbortau y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 11.00 pm)
- anfon e-bost at y Swyddfa Basbort yn Durham sy’n delio â phasbortau cyfunol
Llenwi’r ffurflen ar-lein yw’r ffordd gyflymaf a mwyaf diogel o lenwi’r ffurflen. Dylech lenwi’r ffurflen ac yna ei chadw ar eich cyfrifiadur. Yna gallwch ei hanfon ar neges e-bost yn uniongyrchol i’r Swyddfa Basbort yn Durham. Os nad ydych am lenwi’r ffurflen nawr, gallwch gadw fersiwn gwag ohoni ar eich cyfrifiadur a’i llenwi nes ymlaen. Ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn ffurflenni electronig sydd wedi’u hargraffu a’u llenwi â llaw. Rhaid i chi lenwi’r ffurflen gais ar y sgrin cyn ei hargraffu.
Unwaith y byddwch wedi e-bostio eich ffurflen gais wedi’i chwblhau mae’n rhaid i chi hefyd argraffu copi papur ohoni. Dylai Arweinydd a Dirprwy Arweinydd eich grŵp lofnodi’r ffurflen. Mae’n rhaid i chi anfon y copi papur hwn o’r ffurflen gais i Durham ynghyd â’r ffi a’r dogfennau ategol. Gweler ‘Dogfennau ategol ar gyfer pasbortau cyfunol’ i gael y manylion llawn am hyn.
Dyma gyfeiriad e-bost Swyddfa Basbort Durham [email protected]
Tudalen 1 y ffurflen
I lenwi’r ffurflen hon bydd angen i chi roi manylion am y canlynol:
- yr ysgol neu’r mudiad
- y daith
- enwau’r Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd fel y mae eu henwau’n ymddangos ar eu pasbort cyfredol
Mae’n rhaid i’r Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd lofnodi’r datganiad.
Tudalen 2 y ffurflen
Mae’n rhaid llenwi’r rhestr o aelodau’r parti mewn PRIFLYTHRENNAU gyda chyfenwau yn ôl trefn yr wyddor, gan gynnwys y canlynol gyda phob cofnod:
- enw cyntaf
- tref a gwlad enedigol (yn llawn, e.e. ‘Stoke on Trent’ nid ‘Stoke’, ond cewch dalfyrru enw’r wlad i’r ‘DU’ lle bo’n briodol)
- dyddiad geni
- tref breswylio (yn llawn)
Gallai’r enghraifft isod fod yn ddefnyddiol.
Dylech anfon eich ffurflen gais o leiaf chwe wythnos cyn dyddiad eich taith.
Ar ôl ei llenwi, anfonwch eich ffurflen gais, y cardiau llun, y ffi a’r dogfennau ategol i:
Collective Passport ApplicationsMillburngate HousePO Box 302
Durham DH1 9ZL
Dim ond os byddwch wedi llenwi’r ffurflen gais yn gywir ac wedi darparu’r wybodaeth a’r dogfennau cywir y bydd y cyfnod prosesu o chwe wythnos yn berthnasol.
Gadewch fwy o amser ar gyfer fisas
Dylech sicrhau mwy o amser os bydd angen i chi wneud cais am fisa cyn i chi deithio. Dylech gysylltu â llysgenhadaeth neu is-genhadaeth y wlad rydych yn ymweld â hi i holi a oes angen fisas ar deithwyr ar basbortau cyfunol.
