Y ffurflen gais, y ffi a'r dogfennau ategol ar gyfer newid enw ar basbort :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Mae gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau un ffurflen safonol ar gyfer pob math o gais unigol. Ceir cyfarwyddiadau llawn gyda’r ffurflen, p’un ai’r fersiwn bapur ynteu’r fersiwn ar-lein y byddwch yn ei llenwi. Yma, cewch wybod sut mae cael y ffurflen, faint yw’r ffi a pha ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu hanfon i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.

Mae’n costio £72.50 am wasanaeth safonol i adnewyddu pasbort 32 tudalen deg-mlynedd oedolyn, £103.00 am y Gwasanaeth wythnos Trac Cyflym a £128.00 am y gwasanaeth undydd Premiwm. Mae’r gwasanaeth safonol ar gyfer pasbort plentyn yn costio £46.00, mae’r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym yn £87.00 ac mae’r gwasanaeth undydd Premiwm yn £106.50.

Os mai’r unig beth y mae arnoch eisiau ei wneud yw newid eich enw, dim ond chi fydd yn gorfod llofnodi’r ffurflen. Nid oes angen i neb arall ei llofnodi, oni bai fod eich ymddangosiad wedi newid yn sylweddol ers eich pasbort diwethaf, neu fod eich pasbort ar goll, wedi’i ddwyn neu wedi’i ddifrodi.

Pa enw i’w lofnodi

Dylech lofnodi’r ffurflen yn adran 9 gyda’ch enw newydd. Defnyddiwch eich enw newydd hyd yn oed os ydych yn aros i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil ac nad ydych wedi newid eich enw’n swyddogol eto.

Bydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystiolaeth i brofi eich bod wedi newid eich enw. Rhaid i chi anfon dogfennau gwreiddiol, nid copïau. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn dogfennau wedi’u lamineiddio fel tystiolaeth o newid enw.

Bydd angen i chi anfon:

  • ffurflen gais wedi’i llenwi
  • eich pasbort cyfredol neu’ch pasbort diwethaf
  • dau lun diweddar, a’r rheini’n union yr un fath

a dogfennau ategol fel y manylir isod.

Bydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld dogfennau sy’n dangos y rheswm dros newid enw a’r dyddiad y gwnaethpwyd hynny.

Os ydych chi wedi newid eich enw fwy nag unwaith bydd angen i chi anfon tystiolaeth o bob newid i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Rhaid i’r dogfennau ddangos cysylltiad clir rhwng pob newid enw.

Newid enw o ganlyniad i briodas neu bartneriaeth sifil

Ar gyfer pobl briod, bydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrif priodas.

Ar gyfer partneriaid sifil, bydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrif partneriaeth sifil.

Newid yn ôl i’ch enw cyn priodi neu’ch enw dibriod

Os ydych wedi newid eich enw yn ôl i’ch enw cyn priodi neu’ch enw dibriod, bydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld:

  • eich tystysgrif geni
  • datganiad wedi’i lofnodi gennych yn nodi eich bod wedi newid eich enw yn ôl i’ch enw cyn priodi ar gyfer pob diben
  • tystiolaeth o hanes yr enwau (archddyfarniad absoliwt yn dangos y ddau enw, tystysgrif priodas yn dangos y ddau enw neu ddogfen newid enw’n ffurfiol)

Newid enw drwy weithred newid enw

Ym mhob achos arall, bydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld eich gweithred newid enw.

Cysylltiadau defnyddiol