Yngl?n â Rhifau Cofrestru Personol y DVLA
- CHWILIAD UWCH
- CHWILIAD RHAGDDODIAD
- CHWILIAD PRESENNOL
What are CURRENT style number plates? What are PREFIX style number plates?
Yn Rhifau Cofrestru Personol y DVLA mae gennym filiynau o blatiau rhif unigol ar gael i chi eu prynu ar-lein, o’n busnes gwerthu ar y ffôn neu o’n hocsiynau.
Prynu Ar-lein
Trwy ddefnyddio ein Chwiliad Uwch, y gallwch fynd iddo uchod, gallwch gael mynediad at dros 30 miliwn o rifau cofrestru mewn ychydig eiliadau. Mae’r prisiau yn cychwyn o gyn lleied â £250 sy’n cynnwys TAW a’r ffi ddyrannu £80. Mae hynny’n golygu nad oes dim byd arall i’w dalu ac eithrio costau gwneud y platiau rhif eu hunain – DIM COSTAU CUDD!
Ar ôl dod o hyd i’ch rhif cofrestru perffaith, cliciwch y botwm PRYNU NAWR i brynu ar-lein.
Rhif TAW Cwmni: GD108
Rhoi cynnig mewn ocsiwn DVLA
Bob blwyddyn byddwn yn cynnal tua chwe ocsiwn o rifau cofrestru unigryw mewn lleoliadau trwy Brydain Fawr i gyd.
Mae ein hocsiynau yn cynnwys rhifau cofrestru unigryw diddyddiad, rhai cyfredol a rhai o’r hen arddull gyda’r prisiau yn cychwyn o ddim ond £250.
Rydym yn gwneud profiad yr ocsiwn mor ddymunol â phosibl, cynnig eich hun yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o gynnig mewn ocsiwn. Ond, os na fedrwch chi gyrraedd yr ocsiwn rydym yn cynnig y dewis o gynnig am ddim ar y ffôn neu’r Rhyngrwyd, neu gallwch roi cynnig yn eich absenoldeb.
Ewch i’n adran ocsiwn am ragor o wybodaeth
