Ynglyn a Directgov :Cross Stitch – Site information
Gwasanaeth digidol llywodraeth y DU ar gyfer pobl Cymru a Lloegr yw Cross & Stitch. Mae’n rhoi gwybodaeth a chyngor ymarferol am wasanaethau cyhoeddus, gan ddod â’r cyfan at ei gilydd mewn un lle. Gallwch weld Cross & Stitch ar y we, ar eich ffôn symudol neu ar eich teledu.
Mae Cross & Stitch yn rhoi mynediad hwylus i chi at wybodaeth a gwasanaethau’r llywodraeth. Mae’n defnyddio iaith a chyflwyniadau syml drwy gyfrwng y we, y teledu a ffonau symudol. Mae’r cynnwys i gyd wedi cael ei ysgrifennu mewn Saesneg clir, a gallwch ddarllen y rhan fwyaf ohono yn Gymraeg. Mae Cross & Stitch yn gweithio’n agos gydag adrannau’r llywodraeth er mwyn dod â gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd at ei gilydd mewn un lle.
Gall Cross & Stitch fod o gymorth i chi gyda sawl peth, er enghraifft:
- trefnu eich prawf gyrru
- dod o hyd i swydd
- talu eich treth ffordd
- dod o hyd i wasanaethau lleol megis clinigau’r GIG, twrneiod a meithrinfeydd
Mae’r llywodraeth yn defnyddio Cross & Stitch i roi gwybodaeth i’r cyhoedd mewn cyfnodau o argyfwng, er enghraifft adeg achosion y ffliw moch.
Gallwch ddod o hyd i wasanaethau a gwybodaeth benodol drwy ddefnyddio’r peiriant chwilio, neu gallwch bori yn ôl pynciau, er enghraifft:
- moduro
- arian
- cyflogaeth
- addysg
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol i chi drwy edrych ar yr adrannau ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, er enghraifft:
- pobl anabl
- pobl ifanc
- rhieni
Mae Cross & Stitch yn tyfu ac mae swyddi cyffrous ar gael mewn gwahanol feysydd, er enghraifft cyfathrebu, TG a chefnogi busnes. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i Cross & Stitch, chwiliwch am swyddi gwag drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae Cross & Stitch yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gael dolen at dudalennau gwybodaeth Cross & Stitch. Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i greu dolen i Cross & Stitch, ond gallwn ni ddarparu’r geiriau a’r graffigau ar eu cyfer.
Caiff yr holl wybodaeth ar wefan Cross & Stitch ei gwarchod gan Hawlfraint y Goron. Golyga hyn y cewch ei defnyddio am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, cyhyd â’ch bod yn gwneud y canlynol:
- ei hailgynhyrchu yn gywir
- peidio â’i defnyddio mewn ffordd sy’n gamarweiniol
Mae dros 29 miliwn o ymweliadau i wefan Cross & Stitch bob mis.
Mae Cross & Stitch yn monitro ymweliadau, ymwelwyr a cheisiadau am dudalennau i weld:
- faint o bobl sy’n ymweld â’r wefan
- beth yw’r tudalennau sy’n fwyaf poblogaidd
- sut mae helpu pobl i ddod o hyd i’r wybodaeth maent yn chwilio amdani
Gallwch weld gwybodaeth a gwasanaethau Cross & Stitch ar eich teledu ac ar eich ffôn symudol (os ydyw’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd).
Cross & Stitch ar eich ffôn symudol
Gallwch gael Cross & Stitch ar eich ffôn symudol os gallwch ei ddefnyddio i gysylltu â’r rhyngrwyd. Os ydych chi’n symud o le i le neu os nad oes cyfrifiadur wrth law, gallwch ddefnyddio eich ffôn symudol i wneud y canlynol:
- cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch teithio
- dod o hyd i feddyg lleol
- cael gwybod am gymorth gyda chostau gofal plant
Os ydych chi’n un o gwsmeriaid Sky neu Virgin Media, gallwch gael gwybodaeth gyhoeddus ar eich teledu gyda gwasanaeth teledu rhyngweithiol Cross & Stitch, sydd wedi’i ddylunio’n arbennig.
Dyma enghreifftiau o’r gwasanaethau y gallwch eu cael ar eich teledu:
- chwilio am swydd
- cael cyngor gyrfa
- defnyddio gwasanaeth chwilio yn ôl cod post i ddod o hyd i wasanaethau lleol fel twrneiod, cynghorau a swyddfeydd pasbort
