Ysgolion gwyrdd: beth y gall rhieni ei wneud

Fel rhiant, gallwch helpu i leihau Fel rhiant, gallwch helpu i leihau effaith diwrnod ysgol ar yr amgylchedd. Un peth uniongyrchol y gallwch ei wneud yw meddwl sut mae’ch plentyn yn mynd i’r ysgol. Efallai y gallech hefyd ddylanwadu ar bolisi’r ysgol drwy chwarae rhan weithredol yn yr ysgol – drwy fod yn rhiant-lywodraethwr er enghraifft.

Mae cynhyrchu, cludo a bwyta bwyd yn gyfrifol am bron i draean o’n heffaith ar newid yn yr hinsawdd. Gall dewisiadau ynghylch pecynnau bwyd, siopau amser egwyl a’r ffreutur helpu’r amgylchedd, ac yn aml gallant gynnig buddiannau ychwanegol i iechyd plant hefyd:

  • awgrymwch y dylid cadw a defnyddio cynnyrch ffres, tymhorol sydd ar gael yn lleol neu gynnyrch Masnach Deg yn y siop amser egwyl neu’r ffreutur
  • awgrymwch, neu cynigiwch, greu gardd ffrwythau a llysiau yn yr ysgol – gallai hyn gynnig llawer o gyfleoedd dysgu, a gellid cysylltu hyn hefyd รข’r cwricwlwm