Cael pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Os yw’ch pasbort ar goll neu wedi’i ddwyn, mae angen i chi gael un arall yn ei le cyn y cewch deithio’n rhyngwladol. Er ei bod efallai’n dal yn bosib defnyddio’r pasbort sydd wedi’i ddifrodi ac y gellir ei ddarllen, gallai rhai cwmnïau hedfan wrthod gadael i chi deithio. Mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) yn argymell i chi gael pasbort newydd yn lle un sydd wedi’i ddifrodi.
Os yw’ch pasbort ar goll neu wedi’i ddwyn, mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod mor fuan â phosib. Os caiff eich pasbort ei ddwyn, fe ddylech roi gwybod i’r heddlu ar unwaith.
Gallwch roi gwybod bod eich pasbort ar goll neu wedi’i ddwyn a gwneud cais am basbort arall ar yr un pryd os ydych:
- yn ddinesydd Prydeinig
- yn y DU pan rydych yn gwneud y cais
Os nad ydych chi yn y DU neu os nad oes arnoch eisiau cael pasbort newydd yn syth, dylech roi gwybod ei fod ar goll neu wedi’i ddwyn. Gweler ‘Rhoi gwybod am basbort sydd ar goll neu wedi’i ddwyn’ am ragor o wybodaeth.
Does dim angen i chi roi gwybod am basbort sydd wedi’i ddifrodi. Ond os yw’ch pasbort wedi’i ddifrodi y tu hwnt i reswm, efallai na fydd rhai cwmnïau hedfan yn gadael i chi deithio. Am y rheswm hwn, mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n argymell i chi wneud cais am basbort arall mor fuan ag y bo modd.
Bydd angen i chi anfon y pasbort a ddifrodwyd i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau pan fyddwch yn gwneud cais am un newydd. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n ei ddychwelyd pan fyddant wedi profi pwy ydych chi ac wedi cadarnhau nas ‘ymyrrwyd â’r pasbort at ddibenion twyllodrus’. Mae ymyrryd at ddibenion twyllodrus yn golygu rhywun yn ceisio newid y manylion adnabod neu’r llun ar basbort, er enghraifft, i’w ddefnyddio’n anghyfreithlon.
Mae pasbort oedolyn yn costio £72.50 am wasanaeth safonol ac £103.00 am y gwasanaeth wythnos Trac Cyflym.
Mae pasbort plentyn yn costio £46.00 am wasanaeth safonol ac £87.00 am y gwasanaeth wythnos Trac Cyflym.
Nid yw’r gwasanaeth undydd Premiwm ar gael os oes angen pasbort newydd arnoch.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl yn ‘Tabl o ffioedd pasbort, sut mae talu ac ad-daliadau’.
Adlofnodi’r ffurflen gais am basbort oedolyn newydd
Os ydych chi’n gwneud cais am basbort newydd, dylech lofnodi’r ffurflen yn adran 9 a sicrhau bod rhywun yn ei hadlofnodi yn adran 10.
Dylai’r unigolyn y byddwch yn gofyn iddo adlofnodi fod yn rhywun sydd wedi eich adnabod am o leiaf dwy flynedd. Mae’n ofynnol hefyd:
- ei fod dros 18 oed
- bod ganddo basbort Prydeinig neu Wyddelig cyfredol
- ei fod yn fodlon ysgrifennu ei rif pasbort ar y ffurflen
Dylai’r unigolyn hefyd fod yn gweithio mewn proffesiwn cydnabyddedig neu fod ag enw da yn y gymuned. Am restr o broffesiynau addas, gweler’Pwy gaiff adlofnodi eich cais?’.
Mae angen i’r un unigolyn ardystio un o’ch lluniau. Gwneir hyn drwy ysgrifennu’r canlynol ar gefn y llun:
- ‘Tystiaf fod hwn yn dangos gwir debygrwydd i [Miss, Mr, Mrs, Ms neu deitl arall a’ch enw llawn]’
Yna, rhaid iddo lofnodi’r datganiad a nodi’r dyddiad arno.
Llofnodi’r ffurflen gais am basbort plentyn newydd
Yr un unigolyn ddylai lenwi a llofnodi’r ffurflen gais am basbort y plentyn a’r ffurflen Hysbysu am Basbort sydd Ar Goll neu wedi’i Ddwyn (LS01).Os byddwch yn llenwi ac yn llofnodi’r ffurflenni hyn, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n cymharu eich llofnod chi â’r llofnod ar y ffurflen gais am y pasbort gwreiddiol.
Os mai rhywun arall wnaeth y cais gwreiddiol, bydd arnoch angen amgáu llythyr wedi’i lofnodi ganddo. Dylai’r llythyr cadarnhau bod y pasbort ar goll neu wedi cael ei ddwyn. Pwrpas hyn yw lleihau’r risg o gipio plant.
Ar gyfer ceisiadau plant, dylai’r adlofnodwr (y sawl sy’n llofnodi’r ffurflen yn adran 10) fod yn rhywun sydd wedi adnabod y sawl sy’n llenwi’r ffurflen (rhiant gan amlaf) ers dwy flynedd o leiaf.
Os oes arnoch angen teithio mewn llai na phythefnos, dylech wneud cais brys am basbort newydd. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym (nid yw’r gwasanaeth undydd Premiwm ar gael ar gyfer cael pasbort newydd). Yn gyntaf, dylech ffonio Llinell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 i drefnu apwyntiad mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol.
