Sut i drethu'ch cerbyd gyda ffurflen atgoffa :Cross Stitch – Moduro

Oddeutu tair wythnos cyn i’ch disg treth ddod i ben, dylech dderbyn ‘Cais am Drwydded Cerbyd/Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol’ (ffurflen atgoffa V11) gan DVLA. Defnyddiwch y ffurflen atgoffa V11 i adnewyddu eich treth ar-lein, dros y ffôn, drwy’r post neu’n bersonol.

Os byddwch yn derbyn ffurflen atgoffa V11 gan DVLA, cewch ddefnyddio hon i adnewyddu eich disg treth neu wneud datganiad HOS. Cewch wneud hyn o bumed diwrnod o’r mis y mae eich disg treth gyfredol neu eich datganiad HOS yn dod i ben.

Os byddwch yn defnyddio eich tystysgrif gofrestru (V5C), cewch wneud cais am ddisg treth neu wneud datganiad HOS o ddiwrnod cyntaf y mis.

Newidiadau i’r dosbarth treth, maint yr injan neu’r math o danwydd

Os mae’ch cerbyd wedi newid, megis maint yr injan, ni fyddwch yn gallu defnyddio’r ffurflen atgoffa V11 i drethu’ch cerbyd yn un o ganghennau’r Swyddfa Post®.

Gellir trethu’r rhan fwyaf o gerbydau yn un o ganghennau Swyddfa’r Post® sy’n rhoi disgiau treth, gan ddefnyddio’r ffurflen atgoffa V11. Ar gyfer rhai cerbydau nwyddau trwm (HGV), mae DVLA yn darparu V85/1 (ffurflen atgoffa am drwydded HGV) nad oes modd ei defnyddio ond mewn swyddfa DLVA leol.