Mabwysiadu llysblentyn :Cross Stitch – Rhieni

Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr ac yn bwriadu mabwysiadu plentyn eich priod neu’ch partner, bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyngor lleol. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o leiaf dri mis cyn dechrau eich cais i fabwysiadu gyda’r llys. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y llys yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi dros y plentyn.

Fel arfer, bydd yn rhaid i riant neu rieni eraill y plentyn, neu unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, roi caniatâd i’r plentyn gael ei fabwysiadu. Fodd bynnag, ar sail yr adroddiad, weithiau gallai’r llys benderfynu nad yw hynny’n angenrheidiol.

Dim ond os byddai cael ei fabwysiadu er lles gorau i’r plentyn y gwneir gorchymyn mabwysiadu – a fydd yn rhoi hawliau rhiant i chi. Mae sawl llys-riant yn teimlo bod angen iddo fabwysiadu ei lysblentyn er mwyn gwneud i’r teulu deimlo’n gyflawn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rheswm digonol i’r llys wneud gorchymyn mabwysiadu.

Pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn eich partner, ni fydd y gorchymyn mabwysiadu yn ymyrryd â chyfrifoldeb rhiant eich priod neu’ch partner. Bydd y gorchymyn mabwysiadu yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi, sef y ceisydd, dros y plentyn.

Fodd bynnag, bydd y gorchymyn mabwysiadu yn tynnu ymaith gyfrifoldeb rhiant:

  • y rhiant naturiol arall
  • unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn

Bydd hefyd yn dileu unrhyw orchmynion sy’n bodoli’n barod, megis:

  • gorchmynion cyswllt – lle mae’r llys wedi dyfarnu sut a phryd y bydd ymweliadau cyswllt â’r plentyn yn digwydd
  • gorchmynion preswylio – lle mae’r llys wedi penderfynu gyda pha riant y dylai’r plentyn fyw
  • gorchmynion gwarcheidwadaeth arbennig – lle mae’r llys wedi rhoi cyfrifoldeb rhiant dros dro i bobl ar wahân i’r rhieni naturiol, er enghraifft i berthnasau